Ynglŷn â'r Gwasanaeth
Mae Caerdydd yn ddinas fywiog ac amrywiol, ac yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig. Fel cyflogwr mawr i 13,000 o weithwyr sy'n gweithio ym mhob rhan o wasanaethau'r Cyngor ac mewn ysgolion, mae'r Cyngor yn dibynnu ar swyddogaeth Adnoddau Dynol effeithlon ac effeithiol fel galluogwr allweddol ar gyfer cyflwyno agweddau perthnasol ar ymrwymiadau Cryfach, Tecach, Gwyrddach y weinyddiaeth a Chynllun Corfforaethol y Cyngor.
Ynglŷn â’r Swydd
Gan adrodd i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adnoddau, byddwch yn gyfrifol am ddarparu arbenigedd adnoddau dynol o safon ar draws y Cyngor. Bydd eich ffocws strategol a'ch ymagwedd sy'n canolbwyntio ar bobl yn sicrhau bod y Cyngor, fel cyflogwr mawr yn y ddinas, mewn sefyllfa dda i ymateb i heriau'r presennol a'r dyfodol.
Fel aelod o Uwch Dîm Rheoli'r Cyngor byddwch yn chwarae rhan strategol annatod wrth arwain y gwaith o ddarparu gwasanaethau adnoddau dynol hynod effeithiol, ail-lunio'r Cyngor a sbarduno perfformiad er mwyn sicrhau ffocws parhaus ar welliant.
Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych chi
Byddwch yn gallu perfformio ar eich gorau yn gweithio ar lefel strategol mewn sefydliad mawr. Bydd eich dealltwriaeth fanwl o wasanaethau cyhoeddus yn eich galluogi i newid gwasanaethau, llywio a dylanwadu ar y ffordd y mae gwasanaethau adnoddau dynol yn cael eu cynnig. Bydd gennych hefyd y gallu i gyfrannu at welliant corfforaethol y tu allan i'ch cylch gwaith uniongyrchol.
Byddwch yn huawdl, yn gredadwy ac yn gallu ennill parch drwy roi cyngor arbenigol clir. Bydd gennych y gallu i feddwl yn strategol a delio â materion cymhleth yn rhwydd.
Byddwch yn gyfathrebwr hyderus, byddwch yn sefydlu perthynas broffesiynol effeithiol yn gyflym ar draws y Cyngor, gan gynnwys gyda phartneriaid undebau llafur, yn ogystal ag ar draws y rhwydwaith Adnoddau Dynol ehangach yng Nghymru a thu hwnt.
Bydd gennych hanes profedig o reoli adnoddau dynol.
Mae’r swydd hon wedi’i chyfyngu’n wleidyddol yn unol â Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009).
Rhagor o Wybodaeth
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
I drefnu sgwrs anffurfiol gyda'n hymgynghorydd cynghori yn Faerfield, Dawn Faulkner, ffoniwch 0121 312 3755.
Y cam cyntaf i ymgeiswyr ar y rhestr hir fydd Canolfan Asesu, a gynhelir ym mis Mehefin 2025. Yr ail gam i ymgeiswyr ar y rhestr fer fydd cyfweliad gyda’r Pwyllgor Penodiadau ym mis Gorffennaf 2025.
Rydym yn deall efallai y byddwch yn defnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, sicrhewch fod yr holl wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn ffeithiol gywir, yn wir, yn wreiddiol, ac nad yw’n cynnwys syniadau na gwaith nad ydynt eich rhai chi eich hun.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
• Canllawiau Gwneud Cais
• Gwneud cais am swydd â ni
• Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
• Siarter y Gweithwyr
• Recriwtio Cyn-droseddwyr
• Nodyn Preifatrwydd
Atodiadau