Mae'n ddrwg gennym, nid yw'n bosibl ymgeisio ar gyfer y swydd hon bellach

Am Y Gwasanaeth

Mae Cyngor Caerdydd yn recriwtio ar gyfer rôl newydd gyffrous i weithredu ein dull newydd o weithio gyda phobl ifanc sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio. Bydd y rôl hon yn cynnwys gweithredu'r strategaeth personau coll, cynnig ymgyngoriadau i staff gwaith cymdeithasol ac ymgorffori'r broses gyfweld Dychwelyd i'r Cartref.

Y buddion a gynigir

Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig.

  • Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 28 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 33 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd, gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.
  • Mae ein diwylliant gweithio yn hyblyg, gyda chynllun fflecsi yn eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi.
  • Gweithio hybrid – yn eich cefnogi i gyflawni eich rôl yn hyblyg boed ar ymweliadau, o swyddfa neu eich cartref
  • Mynediad at Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg sy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg a dibynadwy sy’n rhoi tawelwch meddwl.

Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain a’r ddinas gyntaf yn y DU i ddod yn Ddinas sy’n Dda i Blant UNICEF, sy'n rhoi hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd ein polisïau a'n strategaethau.

Rhieni sy’n cael y dylanwad mwyaf ar blant a’u dyfodol. Yn ein barn ni, mae plant yn cyflawni’r canlyniadau gorau pan gânt eu cynorthwyo i dyfu a llwyddo o fewn eu teuluoedd eu hunain. Y gred hon arweiniodd at ddefnyddio’r dull ‘Ffocws ar y Teulu’, sy’n ystyried y teulu cyfan ac yn cydlynu cymorth ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, wedi’i deilwra i anghenion a chryfderau pob teulu.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o ymdrech Caerdydd i fod yn un o'r dinasoedd mwyaf bywiog a llwyddiannus yn y DU, sy'n rhoi plant yn gyntaf, gyda'r uchelgais o arwain y ffordd o ran datblygu arfer yng Nghymru, byddem yn falch iawn o glywed gennych.

Dyma gyfnod cyffrous i ymuno â Chaerdydd. Rydym yn credu y dylai plant, pobl ifanc a’u teuluoedd gael y math cywir o gymorth ar yr adeg y maent ei angen.

Am Y Swydd

Rydym yn chwilio am ymarferydd Gwaith Cymdeithasol profiadol i fod yn rhan o'r tîm Camfanteisio ar Blant.

Dewch i ymuno â ni a bod yn rhan o dîm sefydledig sy'n canolbwyntio ar ymyriadau sy'n gysylltiedig â chamfanteisio a chynorthwyo timau Gwaith Cymdeithasol i nodi ac ymateb i risg gyd-destunol. Bydd y tîm hwn yn allweddol wrth yrru'r fframwaith SAFE (Diogelu Pobl Ifanc rhag Camfanteisio) ymlaen ar draws yr Awdurdod Lleol.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i arwain a siapio ymarfer a pherfformiad y tîm o amgylch ecsbloetio a phersonau coll, byddwch yn cysylltu'n agos ag ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol ar draws rhwydweithiau aml-asiantaeth i wella'r dull partneriaeth o ddiogelu cyd-destunol.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

O fewn y tîm byddwch yn cyflawni rôl Cydlynydd Personau Coll, gwreiddio'r strategaeth Personau Coll a'r broses cyfweliad Dychwelyd i’r Cartref. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â'r Rheolwr SAFE i helpu i ddatblygu'r fframwaith SAFE.

Byddwch yn cynnal ymgyngoriadau â gweithwyr cymdeithasol ac yn ymdrechu am arfer gorau wrth weithio gyda phlant sydd mewn perygl o niwed cyd-destunol.

Bydd angen i chi fod yn Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig, meddu ar sgiliau asesu risg ardderchog a gallu ysgrifennu cofnodion ac adroddiadau cryno. Mae gweithio'n dda mewn tîm a sgiliau cyfathrebu a threfnu ardderchog yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

 

I gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Suki Bahara-Garrens ar 02920 872841.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Fel rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Rydym yn deall y gallech ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr fod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

Gwybodaeth Ychwanegol:-

Atodiadau