Am Y Gwasanaeth
Mae'r Uned Cynnal a Chadw Ymatebol yn gyfrifol am gynnal a chadw holl stoc tai domestig Cyngor Caerdydd, gan gynnwys Llety Dros Dro, Cyfadeiladau Byw yn y Gymuned, hosteli, ystafelloedd unigol ac ardaloedd cymunedol mewn blociau o fflatiau.
Am Y Swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am reoli'r tîm amserlennu a gweinyddu yn effeithiol a hefyd ddarparu gwybodaeth reoli i gefnogi'r gwaith o ddatblygu’r gwasanaeth.
Swydd dros dro yw hon tan fis Mawrth 2024.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio mewn amgylchedd cynnal a chadw a gwybodaeth am weithdrefnau amserlennu a gweinyddu atgyweiriadau. Bydd ganddo hefyd sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i ddefnyddio’r rhain yn briodol gyda phob defnyddiwr gwasanaeth, aelod o staff a gweithredwr.
Bydd angen i chi fod yn drefnus a gallu gweithio ar eich menter eich hun, yn ogystal ag mewn tîm.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. O ganlyniad i’r amgylchiadau COVID-19 presennol, bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal yn rhithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Catherine Phillips-Griffiths ar 07972661882.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau