Am Y Gwasanaeth
Bydd y Rheolwr Cynllun Byw yn y Gymuned yn gyfrifol am ddarparu goruchwyliaeth effeithiol ac effeithlon o'r Bobl Hŷn.
Am Y Swydd
Sicrhau bod cysylltiadau effeithiol yn cael eu datblygu a'u cynnal ag asiantaethau a sefydliadau priodol sy'n berthnasol i bobl hŷn, gyda phwyslais ar iechyd a gofal cymdeithasol.
Cynllunio, datblygu, gweithredu a chydlynu ystod o wasanaethau yn ôl y gofyn i fynd i'r afael ag unigedd cymdeithasol, iechyd, lles a byw'n annibynnol.
Cydlynu cyfarfodydd, digwyddiadau a gweithgareddau yn yr HYB Pobl Hŷn.
Diweddaru a chynnal data gwasanaeth a chynhyrchu adroddiadau ar gynnydd a data yn ôl y gofyn.
Sicrhau glendid y safle cyn, yn ystod ac ar ôl digwyddiadau a gweithgareddau.
Goruchwylio Swyddogion Cymorth Byw yn y Gymuned o ddydd i ddydd, tra eu bod ar y safle.
Rheoli digwyddiadau'n lleol, sicrhau bod asesiadau risg angenrheidiol yn cael eu cynnal a bod preswylwyr yn ddiogel ar y safle, a hyrwyddo digwyddiadau/gweithgareddau.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Swydd ran amser yw hon a bydd yn gweithio 18.5 awr yr wythnos. Y cyflog pro-rata yw £14,888 y flwyddyn.
Mae'r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio dydd Llun a dydd Mawrth wythnos 1 a dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher wythnos 2.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Os hoffech sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Sue Frost 07976 003097
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â .
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau