Mae'n ddrwg gennym, nid yw'n bosibl ymgeisio ar gyfer y swydd hon bellach

Am Y Gwasanaeth

Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â thîm Datblygu ac Adfywio’r Cyngor.  Rydym yn gweithio'n galed i helpu i lywio'r gwaith o gyflawni cynlluniau adfywio ar draws y ddinas a chynyddu buddsoddiad yn ein cymunedau lleol.

 

Rydym yn canolbwyntio ar wella ein canolfannau ardal ac wrth gyflawni'r agenda 'dinas 15 munud' ledled ein cymunedau, rydym yn cyflwyno prosiectau adfywio ar draws ein hystadau tai, cynyddu a gwella cyfleusterau cymunedol a darpariaeth Hybiau ac rydym yn gweithio ar y cyd â phartneriaid megis Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro a Llywodraeth Cymru i wella'r ddarpariaeth gwasanaethau drwy'r ddinas.

 

O ganlyniad i'r amrywiaeth gynyddol o brosiectau a rhaglenni cyffrous y byddwn yn parhau â hwy, rydym yn recriwtio dau Uwch Reolwr Datblygu i helpu i arwain ein timau prosiectau. Mae angen y bobl gywir arnom sydd â phrofiad perthnasol ac sy'n rhannu ein hangerdd dros ymgysylltu â'n cymunedau i ymuno â'n tîm a helpu i wireddu ein dyheadau.

Am Y Swydd

Bydd y deiliaid swydd llwyddiannus yn rhan o'r Uwch Dîm Rheoli ac yn darparu cyfeiriad gweithredol i'n rhaglenni a'n prosiectau adfywio.  Byddan nhw'n gyfrifol am reoli timau prosiectau, rhoi rhaglenni adfywio hirdymor ar waith a nodi cyfleoedd ac atebion arloesol.

 

Mae ffocws cryf ar bartneriaethau strategol gyda sefydliadau allanol, Llywodraeth Cymru ac adrannau ehangach y cyngor. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â'r tîm adfywio presennol yn canolbwyntio ar reoli ansawdd a sicrhau bod cysondeb ar draws ein rhaglenni a'n prosiectau. Byddwch yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid, busnesau a thrigolion allanol i ddylunio a chyflawni ein gwaith.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Bydd gan ddeiliaid y swydd o leiaf bum mlynedd o brofiad yn y maes adfywio neu ddatblygu a phrofiad helaeth o ddylunio a chyflwyno cynlluniau ardal gyhoeddus a gwaith cyflenwi cyfalaf ar lefel uwch, gan ganolbwyntio ar reoli ansawdd a chydymffurfio. 

 

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau arwain a chyfathrebu rhagorol, gyda hanes cryf o reoli rhaglenni adfywio'r sector cyhoeddus (o leiaf 5 mlynedd), gan sicrhau bod cymunedau a rhanddeiliaid perthnasol yn ymgysylltu â'n prosiectau, bod manylebau'n cael eu bodloni a bod safonau ansawdd yn cael eu cadw atynt. 

 

Bydd yr unigolyn cywir yn rhannu ein gweledigaeth o ddarparu rhaglenni adfywio cynaliadwy o safon ac yn gallu cynllunio'n strategol ar gyfer anghenion y gwasanaeth.

Gwybodaeth Ychwanegol

Ar ôl darllen y Disgrifiad Swydd, os hoffech sgwrs anffurfiol am y swydd cysylltwch â Rebecca Hooper, Rheolwr Gweithredol (Adfywio) ar 07974 253264 neu ebostiwchrhooper@caerdydd.gov.uk

 

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

 

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

Gwybodaeth Ychwanegol:-

Atodiadau