Mae'n ddrwg gennym, nid yw'n bosibl ymgeisio ar gyfer y swydd hon bellach

Am Y Gwasanaeth

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â’r tîm Datblygu Tai yng Nghyngor Caerdydd i helpu i lywio’r gwaith o ddarparu tai fforddiadwy ar draws y ddinas.   Gan fod y tîm wedi’i ehangu, rydym yn recriwtio Rheolwr Datblygu (Cyflawni) i helpu gyda’r gwaith o ddarparu cymaint â phosibl o dai fforddiadwy y mae mawr eu hangen.

Am Y Swydd

Bydd deiliad llwyddiannus y swydd yn rhoi cyfeiriad gweithredol i'r Tîm Prosiectau Mawr, gan sicrhau ein bod yn cyrraedd ein targedau gan ganolbwyntio ar reoli ansawdd yn ystod cam Adeiladu ein datblygiadau adeiladu newydd.   Byddwch yn rheoli contractau adeiladu gan sicrhau bod ein cynlluniau'n cydymffurfio â gofynion yr holl ddeddfwriaeth berthnasol, o fewn y gyllideb ac yn bodloni’r targed.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Bydd gan ddeiliad y swydd o leiaf bum mlynedd o brofiad ym maes adeiladu a datblygu tai fforddiadwy gyda phrofiad helaeth o waith adeiladu newydd/amgylchedd adeiledig ar lefel uwch reolwyr, yn enwedig contractau a chaffael.

 

Dylech hefyd fod â phrofiad sylweddol o bum mlynedd neu fwy, wrth ymgymryd â rôl 'Clerc Gwaith' ar brosiectau adeiladu mawr.

Gwybodaeth Ychwanegol

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Kate Cutter, Rheolwr Gweithredol (Prosiectau Mawr) ar y rhif ffôn 07970 555167 neu e-bostiwch kate.cutter@caerdydd.gov.uk

 

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

 

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

Gwybodaeth Ychwanegol:-

Atodiadau