Mae'n ddrwg gennym, nid yw'n bosibl ymgeisio ar gyfer y swydd hon bellach

Am Y Gwasanaeth

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Rheolwr Gwasanaethau Plant profiadol yn y Gwasanaethau Plant

Yma yng Nghaerdydd rydym yn credu y dylai plant, pobl ifanc a’u teuluoedd gael y math cywir o gymorth ar yr adeg gywir. Dyna pam rydym wedi datblygu ein gwasanaethau atal ac ymyrryd yn gynnar i sicrhau y gall teuluoedd ddefnyddio ystod o wasanaethau a chymorth ar wahanol lefelau i osgoi’r angen am ymyrraeth gwaith cymdeithasol statudol.

Am Y Swydd

Y rôl yw Rheoli ein Tîm Cymorth Cynnar i Deuluoedd a'r timau lluosog sy'n ffurfio'r Ganolfan Ymyriadau. Mae’r rhain yn cynnwys Ar Ffiniau Gofal, Cymorth i Deuluoedd, Gofalwyr Ifanc, Cam-drin Domestig, Tu Allan i Oriau a Lles Emosiynol.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Rhaid i ymgeiswyr feddu ar brofiad Gweithiwr Cymdeithasol statudol helaeth ar lefel Rheolwr a bod yn fedrus iawn wrth ddatrys problemau, datblygu gwasanaethau strategol a gweithio ar draws asiantaethau.

Bydd ymgeiswyr yn hyderus wrth oruchwylio grŵp mawr o staff ac yn effeithlon wrth gymhwyso polisi a gweithdrefn y Cyngor.

Bydd ymgeiswyr yn fedrus wrth reoli cyllidebau ac adolygu ansawdd gofal trwy fframweithiau sicrhau ansawdd.

Gwybodaeth Ychwanegol

I gael sgwrs anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon, cysylltwch â Luke.Harrison3@caerdydd.gov.uk

Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant

ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Rydym yn deall y gallech ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr fod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

Gwybodaeth Ychwanegol:

Atodiadau