Am Y Gwasanaeth
Fel ymdrech dros y cyfnod hir, adeiladir Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) ar ddaearyddiaeth economaidd weithredol, sy’n cwmpasu’r deg Awdurdod Lleol yn Ne-ddwyrain Cymru, sy’n addasu’n gyson i fynd i’r afael â heriau diwydiannol, polisi cyhoeddus a chymdeithasol mawrion y dydd. Mae ein Cynllun Twf Economaidd a Diwydiannol sydd newydd ei ddiwygio yn blaenoriaethu amryw o sectorau a gweithgareddau a all helpu’r Rhanbarth orau i ddangos twf cynaliadwy a chynhwysol dros y cyfnod hir. Mae esblygiad y rhanbarth o Fargen Ddinesig rhaglen sengl i fod yn Brifddinas-Ranbarth aml-bartneriaid, aml-raglenni yn cynnig cyfleoedd sylweddol ar gyfer math newydd, mwy effeithiol ac uchelgeisiol o fuddsoddiad cyhoeddus rhanbarthol. Fel rhanbarth sy’n arloeswr yn y dirwedd hon sy’n newid yn chwim, mae arnom eisiau sicrhau bod Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn dwysáu ei henw da am arloesi ac Ymchwil a Datblygu fel modd allweddol o ‘ffyniant bro’ a chefnogi adferiad ac adfywiad economaidd cynaliadwy a chydnerth. I ysgogi’r buddsoddiad o’r sector preifat sy’n ofynnol i gynhyrchu swyddi ychwanegol yn arwain at dwf cymunedau hyfyw a chydnerth ac mewn Gwerth Ychwanegol Gros (GVA), anelir Menter y Cymoedd Gogleddol (NVI) at ardaloedd chwe awdurdod lleol sy’n cyffinio â’r A465. Bydd yn canolbwyntio ar: Safleoedd ac Adeiladau, bydd yn gwella Cysylltedd Digidol a bydd yn archwilio cyfleoedd i ehangu twristiaeth. Bydd prosiectau yn y rhaglen yn canolbwyntio ar ddi-beryglu ac felly’n cynyddu’r tebygolrwydd o fathau eraill o fuddsoddiad, yn breifat ac yn gyhoeddus.
Am Y Swydd
Gan adrodd i Reolwr y Rhaglen, bydd Rheolwr Newid Rhaglen y Cymoedd Gogleddol yn canolbwyntio ar gyflenwi a mesur effaith / budd y rhaglen. Bydd y rôl gyfrifol am:
- Datblygu a gweithio gyda phob un o randdeiliaid yr awdurdod lleol i gynhyrchu a chynnal y Cynllun Gwireddu Buddion i gynorthwyo i ddarparu Gweledigaeth y Rhaglen gwerth £50 miliwn.
- Asesu a datblygu achosion buddion unigol ar gyfer prosiectau ymgeiswyr.
- Cynorthwyo i ddatblygu achosion buddsoddi a busnes cadarn ar gyfer pob un prosiect o fewn y rhaglen gan ganolbwyntio ar gyflawni budd.
- Datblygu a rheoli’r prosesau ‘dysgu o brofiad’ yn y rhaglen.
- Cynorthwyo a helpu i fentora tîm o reolwyr prosiectau wrth iddynt nodi prosiectau sy’n gallu cyflawni’r effaith ofynnol.
- Dirprwyo ar gyfer Rheolwr y Rhaglen.
Gan weithredu o fewn fframwaith Rheoli Rhaglen Lwyddiannus (MSP), mae’r rôl yn cynnig cyfle i helpu i ddatblygu ymagwedd ‘gyntaf o’i math’ tuag at ddarparu prosiectau o fewn rhaglen arloesol sy’n canolbwyntio ar gyflawni llewyrch mewn ardal a chanddi heriau economaidd sylweddol.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Chwiliwn am berson hyderus a all weithio ar ei liwt ei hun sydd â gwybodaeth am reoli prosiectau a phrosesau rheoli rhaglenni sy’n fodlon meddwl yn ddargyfeiriol a datrys problemau mewn amgylchedd cymhleth.
Mae’r rhaid i ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau cyfathrebu geiriol ac ysgrifenedig cryf.
Mae’r rôl yn ddelfrydol ar gyfer rhywun a sefydlodd gymhwysedd wrth gyflenwi prosiectau, cymhwyster mewn rheoli prosiectau, a rhywfaint o brofiad wrth gyflawni rhaglen MSP ac sydd eisiau datblygu hanes o lwyddiant o gyflawni rhaglen gymhleth.
Mae gwybodaeth am reoli buddion o fewn prosiect / rhaglen yn hanfodol.
Mae’n rhaid i ymgeisydd llwyddiannus fod yn gallu gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth sydd wedi’u seilio ar ofynion y rhaglen yn absenoldeb Rheolwr y Rhaglen.
Mae’r swydd wag hon yn ymgorffori cyfuniad o weithio mewn swyddfa, gweithio gartref a gweithio mewn lleoliadau gan yr Awdurdodau Lleol o amgylch y rhanbarth. Lleolir y swyddfeydd ger Canol Dinas Caerdydd yn Adeilad newydd Sbarc|Spark Prifysgol Caerdydd, sy’n cynnwys SPARK, parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd yn ogystal â chanolfan ar gyfer arloesi, egin-fusnesau a chwmnïau deillio.
Mae cael trwydded yrru a modd o gael at gerbyd yn hanfodol, gan y bydd angen teithio busnes yn y Rhanbarth.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r swydd hon dros dro tan yr 31ain o Fawrth, 2029.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr mewnol sy’n dymuno ymgeisio am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais drwy ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Gall deisyfiadau ond cael eu cymeradwyo gan y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog perthnasol neu uwch-swyddog enwebedig ar radd nad yw’n is nag OM2 neu yn achos staff ysgol, y Prifathro / y Corff Llywodraethu.
Mae’r swydd wag hon yn addas ar gyfer rhannu swydd.
Croesawn geisiadau yn Gymraeg a Saesneg, fel ei gilydd. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Oherwydd y trefniadau gweithio dros dro cyfredol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy’r post.
Nodwch, os gwelwch yn dda, nad yw’r Cyngor yn derbyn CV. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, a fyddech cystal â sicrhau eich bod yn cyfeirio at yr isod a leolir ar ein gwefan:
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau