Am Y Gwasanaeth
Mae cyfle gwych wedi codi am Reolwr Trafnidiaeth uchelgeisiol, profiadol a chymwysedig i arwain a datblygu gweithrediadau fflyd Cyngor Caerdydd, wedi'i leoli mewn cyfleuster o'r radd flaenaf yn Coleridge Road, Grangetown, Caerdydd.
Mae Gwasanaeth Fflyd y Cyngor yn cynnal fflyd gymysg o tua 800 o gerbydau sy'n amrywio o geir a faniau bychain hyd at gerbydau nwyddau trwm mawr. Mae gan y Cyngor uchelgais i gynyddu maint ei wasanaeth cynnal a chadw fflyd drwy gynnig gwasanaethau i sefydliadau a phartneriaid allanol, gan, yn bwysig, leihau gwaith sy’n cael ei roi ar gontract allanol.
Byddwch yn reolwr profiadol a phroffesiynol hynod frwdfrydig, gyda galluoedd rheolaethol cryf o ran arwain, datblygu, ac ysgogi pobl a thimau. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a pherthynas cryf, yn gallu cyflwyno i gynulleidfaoedd amrywiol o yrwyr i uwch swyddogion ac aelodau
Am Y Swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
• rheoli gweithrediadau trafnidiaeth y Cyngor yn effeithiol ac yn barhaus er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth lawn â gofynion Trwydded Gweithredwyr y Cyngor;
• gyfrifol am reolaeth gyffredinol dros ddarparu atebion trafnidiaeth priodol, diogel, wedi'u cynnal a'u cadw'n dda ac sy'n amgylcheddol gynaliadwy i ystod eang o gwsmeriaid mewnol ac allanol;
• cynrychioli'r Cyngor a darparu arbenigedd, cyfeiriad a chyngor strategol a phroffesiynol i aelodau etholedig ac uwch reolwyr mewn perthynas â darparu gwasanaeth trafnidiaeth a rheoli fflyd cynhwysfawr, a
• datblygu cyfleoedd busnes masnachol newydd ar gyfer Gwasanaeth Trafnidiaeth Canolog y Cyngor.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus, yn benodol:
•Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol mewn Trafnidiaeth Ffyrdd (CPC);
• profiad o ymgymryd â rôl Rheolwr Trafnidiaeth mewn sefydliad sydd â fflyd weithredol fawr ac amrywiol;
• profiad o ddatblygu perthynas waith effeithiol i annog parch, ymddiriedaeth a hyder;
• profiad o reoli a monitro perfformiad yn effeithiol a gosod amcanion clir ar gyfer adolygu perfformiad unigolion a’r gwasanaeth;
• y gallu i arfer arweinyddiaeth weladwy a chefnogol, sy'n grymuso, yn galluogi ac yn datblygu staff i gyflawni canlyniadau; a
• sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol effeithiol gyda phob lefel o gyflogeion, gan gynnwys rheolwyr ac asiantaethau allanol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu gweithredu ar lefel strategol a gweithredol, ymateb i anghenion newidiol y gwasanaeth, dangos y gallu i ddatrys problemau a bod yn ymrwymedig i fodloni anghenion cwsmeriaid.
Gwybodaeth Ychwanegol
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Dean Thomas (Rheolwr Gweithredol) ar 07487850264.
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Gall y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon gael ei chynnal yn rhithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, ffoniwch Dean Thomas gan ddefnyddio’r rhif ffôn uchod.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau