Mae'n ddrwg gennym, nid yw'n bosibl ymgeisio ar gyfer y swydd hon bellach

Am Y Gwasanaeth

Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig ymuno â'r Tîm Cyflawni Partneriaethau i gyflawni’r Rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin newydd.  Mae'r gronfa newydd hon yn rhan o agenda Codi'r Gwastad Llywodraeth San Steffan i hybu cynhyrchiant, swyddi a safonau byw, adfer ymdeimlad gymuned, balchder lleol a pherthyn a lledaenu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus.

Mae'r Tîm Cyflawni Partneriaeth ehangach yn rheoli ystod o gyllid arall gan gynnwys grantiau Llywodraeth Cymru megis y Grant Cymorth Tai, Grant Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) a'r Grant Plant a Chymunedau. 

Am Y Swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo'r Rheolwr Prosiect (Cronfa Ffyniant Gyffredin) i ddatblygu, rheoli a gweithredu model comisiynu ar y cyd i gefnogi'r gwaith o gyflawni prosiectau a gwasanaethau yng Nghaerdydd sy'n ymgorffori arian cyfalaf a refeniw.

Un elfen allweddol o'r rôl yw sicrhau bod trefniadau comisiynu effeithiol yn cael eu sefydlu i ddarparu ystod o wasanaethau a chynlluniau cymhleth gydg Gwasanaethau eraill y Cyngor, y Trydydd Sector a phartneriaid Busnes. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain ar gyflwyno'r Gronfa hon o ddydd i ddydd gan cynnwys sefydlu trefniadau contractau neu grantiau, monitro perfformiad cadarn, trefniadau gwerthuso ac adolygu, a datblygu trefniadau pwrpasol eraill i bennu llwyddiant ac effaith y Rhaglen.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Bydd gennych brofiad blaenorol o gomisiynu a gweithgarwch caffael, gan gynnwys contractio a chytundebau grant, gan ddangos dealltwriaeth o reolaeth ac atebolrwydd ariannol.  Rhaid bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio gyda thechnoleg newydd yn ogystal â sgiliau digidol rhagorol. Bydd angen i chi weithio’n dda mewn tîm a gallu gweithio o’ch pen a’ch pastwn eich hun.

Bydd gennych brofiad o weithio mewn partneriaeth gydag amrywiaeth o bartneriaid un ai o’r sector statudol, trydydd sector neu fusnes ac yn dangos y gallu i reoli nifer o wahanol gynlluniau a phrosiectau, felly mae sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol yn hanfodol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Swydd dros dro yw hon tan 30 Mawrth 2025.

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081).  Dim ond y canlynol sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau: y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog neu Uwch Swyddog Enwebedig perthnasol, nad yw ar raddfa is na RhG2, neu, yn achos staff ysgolion, y Pennaeth/Corff Llywodraethu.  Mae’r swydd wag hon yn addas i'w rhannu.  Oherwydd yr amgylchiadau COVID-19 presennol bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal ar sail rhithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, cysylltwch â nsouthgate@caerdydd.gov.uk

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol ar ôl darllen y disgrifiad swydd a manyleb y person, cysylltwch â Natalie Southgate, Rheolwr Cyflawni Partneriaethau ar (029) 2053 7277.  

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â .

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

Gwybodaeth Ychwanegol:-

Atodiadau