Am Y Gwasanaeth
Mae Caerdydd yn ddinas sy’n tyfu, ac mae rhwydwaith helaeth o barciau a mannau gwyrdd ein Gwasanaethau Ailgylchu a Chymdogaeth, y mae gan ein preswylwyr gysylltiad agos â nhw, yn llunio’i chymeriad, gan roi blas ar ein prifddinas.
Mae'r Cyngor yn cydnabod y cyfraniad y mae'r mannau hyn yn ei wneud i les amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol y ddinas, y rôl bwysig y maent yn ei chwarae mewn ymateb i’r agendâu hinsawdd, gweithgaredd corfforol ac iechyd ac mae wedi ymrwymo i raglen uchelgeisiol o fuddsoddi a datblygu cynaliadwy.
Mae'r ddarpariaeth yn cynnwys 395 o barciau a mannau gwyrdd unigol, 17 ohonynt â statws Baner Werdd, 47 yn safleoedd coetir, 28 yn safleoedd rhandiroedd statudol, 171 yn gyfleusterau chwarae a 151 yn gaeau chwaraeon / arwynebau chwarae a’n Stablau Marchogaeth unigryw.
Am Y Swydd
Rhaid bod gennych brofiad o weithio ym maes gweithrediadau cludiant cerbydau nwyddau trwm ac yn meddu ar gymhwyster NEBOSH ar gyfer Iechyd a Diogelwch neu’n gallu rhoi tystiolaeth/dangos profiad sylweddol o ddisgyblaeth ym maes Iechyd a Diogelwch.
Bydd angen y rôl hon i helpu i ddatblygu asesiadau risg, cyfarwyddiadau gwaith, deunydd hyfforddiant, cyflwyno hyfforddiant sy’n ymwneud ag Iechyd a Diogelwch gan gynnwys hyfforddiant Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol (CPC) i Yrwyr a hyfforddiant Rheoli'n Ddiogel IOSH ar gyfer y gweithwyr rheng flaen yn y Gwasanaethau Ailgylchu a Chymdogaeth. Bydd hyn hefyd yn golygu monitro cydymffurfiaeth â Systemau Gwaith Diogel, cynllunio a chyflawni gweithrediadau Cynnal a Chadw Tiroedd yn weithredol drwy ddefnyddio adnoddau'n effeithiol a rhaglennu gweithrediadau i sicrhau cydgysylltiad effeithiol â rhanddeiliaid drwy systemau gwaith diogel.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu nodi problemau o ran cydymffurfedd Iechyd a Diogelwch a darparu datrysiadau sy'n ymwneud ag ystod eang ac amrywiol o faterion.
Mae sgiliau rhyngbersonol da a’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig yn hanfodol. Rhaid i chi allu nodi atebion / datrys problemau sy'n ymwneud ag ystod eang o faterion a rhanddeiliaid sy’n ymwneud â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a thrafnidiaeth.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos y gallu i weithio fel aelod o dîm, parodrwydd i helpu eraill ac ymrwymiad i gyflawni amcanion y gwasanaeth.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â .
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau