Mae'n ddrwg gennym, nid yw'n bosibl ymgeisio ar gyfer y swydd hon bellach

Am Y Gwasanaeth

Caerdydd yw un o'r dinasoedd mwyaf medrus sy'n tyfu gyflymaf ym Mhrydain, ac mae'r Tîm Cynllunio yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni a rheoli twf y ddinas. A hithau’n brifddinas Cymru, mae hefyd yn lle anhygoel i fyw, sy'n ei gwneud yn hawdd cyflawni cydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith.  

Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm fel Cynllunydd yn ein Tîm Rheoli Datblygiadau Anstrategol. Byddwch yn rhan o dîm o swyddogion rhagorol a chyfeillgar iawn sydd wedi ymrwymo i ddarparu datblygiad o'r ansawdd uchaf a gwneud Caerdydd yn ddinas wirioneddol wych. Beth am ddod i ymuno â ni?

Byddwch yn rheoli llwyth achosion prysur ac amrywiol o geisiadau, gan ganolbwyntio ar geisiadau cynllunio anstrategol.

Am Y Swydd

Bydd gennych gymhwyster a phrofiad ym maes cynllunio trefol, sgiliau cyfathrebu da a’r gallu i reoli blaenoriaethau lluosog. Mae manylion llawn dyletswyddau a chyfrifoldebau’r swydd i’w gweld yn Llyfryn y Swydd.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Prif leoliad y swydd yw Neuadd y Sir, sy’n daith gerdded fer o leoliad hardd Bae Caerdydd, ond rydym wedi croesawu manteision gweithio hybrid rhwng y swyddfa a gartref. Byddwch hefyd yn cael y cymorth angenrheidiol gan y rheolwyr a’r tîm, trefniadau gweithio hyblyg, adolygiadau gan gymheiriaid a rhannu sgiliau i’ch galluogi i lwyddo yn eich rôl a datblygu’n broffesiynol.

Gwybodaeth Ychwanegol

I wneud ymholiadau anffurfiol am y swydd, e-bostiwch dconnelly@caerdydd.gov.uk

Am fanylion pellach ac i wneud cais, ewch i wefan swyddi‘r Cyngor

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â .

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

Gwybodaeth Ychwanegol:-

Atodiadau