Mae'n ddrwg gennym, nid yw'n bosibl ymgeisio ar gyfer y swydd hon bellach

Am Y Gwasanaeth

Mae gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol yn rhan o’r Gyfarwyddiaeth Adnoddau. Mae’r gwasanaeth yn gartref i ganolfan gyswllt y Cyngor C2C sy’n trin galwadau ffôn, sgyrsiau gwe, cysylltiadau ar y cyfryngau cymdeithasol a ffurflenni ar-lein gan y cyhoedd ar ran gwasanaethau eraill y cyngor. Mae’r gwasanaeth yn gosod safonau gwasanaeth cwsmeriaid y cyngor ac yn darparu hyfforddiant graddol i bob rhan o’r cyngor i gynyddu a chynnal lefelau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i’r holl gwsmeriaid.

Mae’r gwasaneth hefyd yn gartref i TGCh a’r timau digidol ehangach sy’n arwain ar agenda ddigidol y cyngor gan yrru moddau newydd a blaengar o weithio yn eu blaen yn fewnol ac ar draws y ddinas i gefnogi preswylwyr a chwsmeriaid. Mae’r gwasanaeth yn gyfrifol am wefan corfforaethol y cyngor www.caerdydd.gov.uk, app Cardiff Gov a’r Sgyrsfot rhithwir.

Am Y Swydd

Cefnogi datblygiad a chynnal cynnwys digidol ar amrywiol lwyfannau. Gan ganolbwyntio ar ddarparu cynnwys hygyrch o ansawdd uchel i'w gyhoeddi ar wefannau cwsmeriaid y cyngor.

Bydd y swydd hon wedi’i lleoli yn y cartref yn bennaf gyda’r angen am rywfaint o amser swyddfa pan fo'n briodol ac yn ddiogel i wneud hynny.

 

 

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Chwaraewr tîm sydd ag agwedd gadarnhaol ac sy’n gallu bwrw iddi ar ei union ar nifer o brojectau digidol.

Rhaid eich bod yn drefnus, prydlon ac yn gallu annog eich hun.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â llygad fanwl sy’n ymfalchio yn ei waith.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir neu os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd ar ôl darllen y Disgrifiad Swydd, cysylltwch â Ruth Long ruth.long@caerdydd.gov.uk  

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

 

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

Gwybodaeth Ychwanegol:-

Atodiadau