Am Y Gwasanaeth
Mae gan y Cyngor y pwerau dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 i gyhoeddi Hysbysiadau Tâl Cosb i gerbydau y canfyddir eu bod yn torri'r Ddeddf hon. Mae dyletswydd ar y Cyngor i sicrhau bod yr holl Hysbysiadau'n cael eu prosesu'n gywir ac yn unol â Deddfwriaeth. Y tîm hwn sy'n gyfrifol am y gwasanaeth hwn.
Am Y Swydd
Bydd deiliad y swydd yn atebol am roi cymorth gweinyddol effeithlon i’r Grŵp Gorfodi Sifil. Gan gynnwys prosesu Bathodynnau Glas a Thrwyddedau Preswylwyr.
Darparu cymorth gweinyddol i Swyddogion Parcio a Troseddau Traffig sy’n Symud wrth iddynt gyflawni eu holl weithgareddau yn berthnasol i brosesu Hysbysiadau Tâl Cosb (HTCau), hyd at y cam o benodi beilïaid. Bydd y rôl yn cynnwys darparu cymorth gweinyddol llawn i'r tîm. Bydd deiliad y swydd hefyd yn helpu i weinyddu bathodynnau glas a thrwyddedau parcio preswylwyr
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Rhaid i chi allu cyfathrebu'n glir ac yn gryno â chwsmeriaid a chydweithwyr mewn modd teg a rhesymol ar lafar ac yn ysgrifenedig. Rhaid i chi allu gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth a gallu dadansoddi dogfennau'n gywir a rhaid i chi allu aros yn ddiduedd bob amser. Rhaid i chi allu gweithio mewn tîm
Rhaid i chi fod yn barod i ddysgu a gallu cynnal arholiad mewn Prosesu Hysbysiadau.
Gwybodaeth Ychwanegol
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
O ganlyniad i’r amgylchiadau COVID-19 presennol, bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â
Helen Jenkins ar 02920 873320
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â .
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau