Mae'n ddrwg gennym, nid yw'n bosibl ymgeisio ar gyfer y swydd hon bellach

Am Y Gwasanaeth

Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar o fewn cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd. Wedi'i achredu â Gwobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf, mae'r gwasanaeth yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd uchel i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ledled y ddinas.

Mae'r gwasanaeth yn defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar y teulu, yn seiliedig ar gryfderau, ac yn gynhwysol i adnabod y gefnogaeth fwyaf priodol a fydd yn diwallu anghenion unigolion a’u teuluoedd.  Mae'r timau o fewn y gwasanaeth yn cydweithio gydag ystod o weithwyr proffesiynol a phartneriaid i sicrhau bod cefnogaeth ar y lefel iawn ac ar yr adeg iawn.

Am Y Swydd

Bydd deiliad y swydd yn gweithio fel rhan o’r tîm Gwybodaeth ac Ymgysylltu i sicrhau bod teuluoedd plant a phobl ifanc ag anableddau neu anghenion ychwanegol yn cael y wybodaeth ddiweddaraf sy’n berthnasol ac o fudd iddynt. Cyflawnir hyn trwy ddarparu sesiynau allgymorth mewn amrywiaeth o leoliadau a thrwy ddarparu e-fwletinau rheolaidd i'r rhai sydd wedi'u cofrestru ar y Mynegai.

Byddwn yn cynnig:

  • Amgylchedd gwaith cyfeillgar a chefnogol
  • Cefnogaeth a goruchwyliaeth reolaidd i'ch cefnogi yn eich gwaith.
  • Rhaglen hyfforddi eang a helaeth gyda chyfleoedd i hyfforddi mewn meysydd penodol.
  • Systemau a thechnoleg sy'n galluogi ac yn hyrwyddo gweithio hybrid.
  • Cyfle i gyflwyno gwasanaeth i fabanod, plant, pobl ifanc a'u rhieni/gofalwyr sy'n gwneud gwahaniaeth iddyn nhw a'u lles.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Rydym yn chwilio am bobl gyda:

  • Brwdfrydedd, cymhelliant a phositifrwydd
  • Gwydnwch a'r gallu i ymateb yn gadarnhaol dan bwysau
  • Angerdd dros wneud gwahaniaeth i fywydau teuluoedd ar draws y ddinas
  • Dealltwriaeth gynhwysfawr o anghenion babanod, plant, pobl ifanc a theuluoedd.
  • Dealltwriaeth o'r ystod o wasanaethau cymorth i'r anabl neu anghenion ychwanegol a'r derminoleg a ddefnyddir wrth ddatblygu a chyflwyno'r Mynegai.
  • Profiad profedig o feithrin perthnasoedd gwaith effeithiol gydag amrywiaeth o unigolion a grwpiau.
  • Y gallu i gynnal perthynas broffesiynol dda gyda defnyddwyr gwasanaeth.
  • Y gallu i reoli eu llwyth gwaith eu hunain.
  • Y gallu i ohebu'n glir.

Bydd yr ymgeisydd cywir yn gweithio i nodi anghenion gwybodaeth a chymorth plant a phobl ifanc ag anableddau neu anghenion ychwanegol a'u teuluoedd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r swydd hon yn gyfnod mamolaeth dros dro felly mae cyfyngiad amser iddi tan 28 Chwefror 2026.

I gael rhagor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Jason Townsend, Swyddog Gwybodaeth Porth Teulu ar 07875547518.

Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth.  Felly, er nad yw’n ofyniad ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, gan gynnwys y rheini:

  • Dan 25 oed
  • Nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant
  • O’n cymunedau lleol gan gynnwys yn enwedig unigolion anabl, gofalwyr a’r rheiny o gymunedau Pobl Ddu a Lleiafrifol Ethnig a LHDT+ Caerdydd
  • Y gallu i gyfathrebu’n llawn yn y Gymraeg

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg.   Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

Gwybodaeth Ychwanegol:-

Atodiadau