Mae'n ddrwg gennym, nid yw'n bosibl ymgeisio ar gyfer y swydd hon bellach

Am Y Gwasanaeth

Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd. P'un a ydynt yn cael eu cyflogi mewn rôl wyneb-yn-wyneb â chwsmeriaid, neu mewn rôl dechnegol, fasnach neu gymorth, mae ein gweithwyr yn ein helpu i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

 

Mae ein Tîm Caerdydd Ddwyieithog yn awyddus i gyflogi Swyddog Polisi rhan-amser yn Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd CAERDYDD CF10 4UW.

 

Mae Caerdydd Ddwyieithog yn arwain y gwaith o ddatblygu Caerdydd wirioneddol ddwyieithog lle gall pawb yn y brifddinas fanteisio ar wasanaethau a chymorth yn Gymraeg neu’n Saesneg Mae nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd wedi dyblu dros y 25 mlynedd diwethaf, ac mae Caerdydd yn ddinas gynyddol ddwyieithog. Fel awdurdod lleol, rydym yn gweithio gyda chwmnïau yn y sector preifat a’r trydydd sector fel rhan o’r strategaeth ‘Caerdydd Ddwyieithog’ ehangach i geisio hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg yng Nghaerdydd. Nod y dull newydd a blaengar hwn o weithio yw chwalu’r muriau rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, hyrwyddo dwyieithrwydd fel rhywbeth hollol naturiol a sicrhau bod gweledigaeth y Cyngor o greu ‘Caerdydd ddwyieithog’ yn cael ei gwireddu.

Am Y Swydd

Dyma rôl rhan-amser ac fe’i gynigir am 18.5 awr yr wythnos.

 

Yn y rôl Swyddog Polisi hon byddwch yn cefnogi ein gwasanaeth a byddwch yn dysgu sut i:

  1. Gefnogi Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog i gyflawni Cynllun Gweithredu Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog amlasiantaethol ledled y ddinas 2022-27.
  2. Cynnig cyngor ar faterion sy'n ymwneud â Safonau'r Gymraeg statudol (Mesur y Gymraeg [Cymru] 2011), Polisïau'r Gymraeg ac agenda Caerdydd Ddwyieithog.
  3. Cefnogi Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog i weithredu Safonau'r Gymraeg ar draws y Cyngor a chodi ymwybyddiaeth o'r Safonau hyn er mwyn sicrhau bod yr holl staff a chyfarwyddiaethau yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau dan ddeddfwriaeth y Gymraeg.
  4. Paratoi cyngor a chefnogaeth i'r holl staff, rheolwyr, aelodau etholedig a thrydydd partïon ar sut mae polisïau iaith y cyngor yn berthnasol i'w meysydd cyfrifoldeb. Rhoi cyngor a chymorth i unrhyw aelod arall o staff, y cyhoedd a sefydliadau allanol ar bob mater sy'n ymwneud â'r Gymraeg.
  5. Cynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu a chydlynu polisïau a strategaethau i hwyluso a hyrwyddo’r Gymraeg/ Safonau’r Gymraeg er mwyn codi ymwybyddiaeth gorfforaethol o rwymedigaethau statudol y Cyngor a sicrhau bod staff yn cydymffurfio â’r safonau a bod gwasanaethau dwyieithog yn cael eu gwella.
  6. Delio ag unrhyw faterion eraill a allai godi yn ymwneud â'r Gymraeg, gan gynnwys ymchwiliadau Comisiynydd y Gymraeg, yn ôl y gofyn.
  7. Cefnogi Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog gyda gweinyddiaeth y Grŵp Caerdydd Ddwyieithog o Aelodau Trawsbleidiol ac unrhyw gyfarfodydd perthnasol eraill yn ôl yr angen.
  8. Cynrychioli'r Cyngor mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol perthnasol (e.e. Fforwm Partneriaid Caerdydd Ddwyieithog, Fforwm Cymraeg mewn Addysg ac ati).

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo Pennaeth Caerdydd Ddwyieithog a Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog ac yn rhoi cymorth ac arweiniad i Reolwyr a Staff Cyngor Caerdydd i sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Bydd y rôl hon yn cyfrannu at bob agwedd ar ddyletswyddau statudol y Cyngor gan gynnwys cefnogi'r gwaith o weithredu Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog i sicrhau ein bod yn cyflawni ein gweledigaeth i greu Caerdydd wirioneddol ddwyieithog.

 

Mae'r gallu i weithio dan bwysau a chwblhau tasgau o fewn yr amserlenni y cytunir arnynt yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, yn ogystal â'r gallu i weithio a chyfathrebu i lefel uchel yn y Gymraeg a'r Saesneg.

 

Rydym yn symud i fodel gweithio hybrid a fydd yn cynnwys gweithio mewn swyddfa a gartref ar-lein a byddwch yn cael eich annog i ddatblygu'r sgiliau i gefnogi hyn.  Pan fydd angen gweithio gartref, byddwch yn cael yr offer angenrheidiol, ond bydd angen i chi drefnu eich cysylltiad eich hun â’r rhyngrwyd.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol.  Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith ac sy’n awyddus i ddysgu yn y rôl ac i’n helpu i wneud gwahaniaeth i'n cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghaerdydd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl ar ôl darllen y disgrifiad swydd, cysylltwch ag Ifan Brychan, Rheolwr Busnes Caerdydd Ddwyieithog yn:

 

ifan.brychan@caerdydd.gov.uk

 

Mae’r swydd yn rhan-amser i weithio 18.5 awr yr wythnos.

 

Mae’r cyflog a gyflwynir yn berthnasol i 37 awr yr wythnos serch hynny ac – gan ei fod yn swydd rhan-amser – bydd yn cael ei gynnig pro rata.

 

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â’r gallu i gyfathrebu yn effeithiol yn y Gymraeg hyd at Lefel 5 – Hyfedredd. 

 

Wrth gwblhau eich cais ar-lein, dylech deilwra eich cais i'r rôl yn yr adran Gwybodaeth Ategol, gan nodi sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol a restrir ar y Fanyleb Person. Dylech hefyd nodi sut rydych yn bodloni'r meini prawf dymunol gan y gallem ddefnyddio'r rhain i lunio'r rhestr fer os bydd nifer mawr o ymgeiswyr yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol.  Mae adran Gwybodaeth Ategol y ffurflen gais ar-lein wedi'i chyfyngu i 4,000 o arwyddnodau – gallwch lanlwytho Gwybodaeth Ategol ychwanegol ond peidiwch â chyflwyno CV gan nad yw’n debygol o gynnig y wybodaeth sydd ei hangen. Darllenwch y canllaw ar sut i wneud cais. 

 

I gefnogi eich cais neu gyfweliad posibl yn y dyfodol efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gael gwybod ychydig mwy am rôl ehangach y Cyngor drwy ein dilyn ar Twitter, Facebook, Instagram, tanysgrifio i'n sianel YouTube, neu drwy ymweld â'n gwefan  

 

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

 

Os oes angen help arnoch gyda'ch cais, cysylltwch â'n Tîm Gwasanaethau i Mewn i Waith www.imewniwaithcaerdydd.co.uk neu ar 029 20871071

 

Nodwch, os gwelwch yn dda, nad yw Cyngor Caerdydd yn derbyn CVs. Wrth gwblhau yr adran wybodaeth gefnogol yn eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio i’r isod sydd i’w gweld ar ein gwefan.

  

Gwybodaeth bwysig i’w ddarllen er mwyn cwblhau eich cais:- 

 Gwybodaeth Ychwanegol:- 

 

Atodiadau