Mae'n ddrwg gennym, nid yw'n bosibl ymgeisio ar gyfer y swydd hon bellach

Am Y Gwasanaeth

Mae'r adran TGCh yn darparu systemau TG, cymorth a gwaith cynnal o ansawdd uchel i alluogi Cyngor Caerdydd i gyflawni ei ystod lawn o wasanaethau.

Mae timau Data a Systemau Menter yr adran TGCh yn gyfrifol am ddatblygu, cefnogi a chynnal rhaglenni a ddatblygwyd yn fewnol a rhaglenni trydydd parti a ddefnyddir gan staff mewnol a’r cyhoedd.

Byddwch yn ymuno â thîm brwdfrydig ac uchelgeisiol, gyda chyfleoedd i weithio gydag ystod o dechnolegau blaengar. 


Dylech fod yn awyddus i weithio mewn amgylchedd tîm prysur ac ystwyth, yn hapus i gydweithio ac yn hapus i weithio’n annibynnol.


Bydd gennych fynediad at ystod eang o gyfleoedd dysgu i’ch galluogi chi i ddatblygu eich llwybr gyrfa.  Bydd hyn yn cynnwys cymwysterau proffesiynol a gydnabyddir gan y diwydiant a/neu raddau lle bo hynny'n briodol.

Am Y Swydd

Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig a hunan-gymhellol i ymuno â'n tîm peirianneg data bach ond prysur a llwyddiannus.    

 

Mae'r Tîm Data yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal ein gwasanaeth darparu data o ansawdd uchel sy'n sicrhau bod gwybodaeth reoli ar gael i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar draws ein sefydliad.

 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydweithio â'r tri Uwch Beiriannydd Data profiadol arall a'r Pensaer Mentrau.  

 

Bydd yr Uwch Beiriannydd Data hefyd yn gyfrifol am optimeiddio prosesau busnes sy'n ymwneud â'n cais ERP SAP trwy ddatblygu rhyngwynebau, llifoedd gwaith ac adroddiadau personol gan ddefnyddio iaith raglennu ABAP ac offer datblygu SAP arall.    Darperir hyfforddiant ond mae dawn amlwg ar gyfer peirianneg a datblygu meddalwedd yn hanfodol.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

  • Datblygu polisïau, safonau a chanllawiau sefydliadol ar gyfer prosesau rheoli data, gan gynnwys dosbarthu, diogelwch, ansawdd, egwyddorion moesegol, adalw a phrosesau cadw.
  • Datblygu modelau data i gynrychioli a chyfleu gofynion data sy'n galluogi'r sefydliad i ddeall ei asedau data.
  • Datblygu strwythurau rheoli data a metadata i gefnogi cysondeb o ran adalw gwybodaeth, cyfuno, dadansoddi, adnabod patrymau a dehongli drwy'r sefydliad cyfan.
  • Darparu storfa ddata strwythuredig ac effeithiol ar gyfer ein sefydliad.
  • Dylunio, adeiladu, profi a chynnal prosesau ETL ar setiau data mawr iawn.
  • Sicrhau'r cod gorau posibl a ffurfweddu adnoddau a ddarperir gan gwmwl er mwyn sicrhau'r trwygyrch mwyaf posibl a chaniatáu i lwythi gwaith sy’n hanfodol i fusnes gael blaenoriaeth.
  • Monitro prosesau ETL / ELT, gweithredu'n gyflym ar fethiannau, cyfleu gwallau / methiannau'n rhagweithiol, a chydgysylltu â thimau eraill pryd bynnag y bo angen i'w datrys.
  • Gan ddefnyddio offer datblygu ABAP a SAP, addasu swyddogaethau SAP safonol, creu adroddiadau a rhyngwynebau personol, gweithredu rhesymeg busnes a llifoedd gwaith ac integreiddio systemau allanol gyda'n cais ERP SAP yn unol â chyfarwyddyd ein timau busnes ar gyfer gwaith gweithredol neu brosiect.
  • Gweithio yn unol ag arferion gorau ym maes rheoli cod ffynhonnell, gan ddefnyddio dulliau a phrosesau rheoli ffynhonnell y cwmni
  • Sicrhau bod dogfennau o ansawdd uchel yn cael eu datblygu, eu cynnal a'u hadolygu'n rheolaidd ar gyfer yr holl brosesau datblygu a gweithredol
  • Perfformio adolygiadau cymheiriaid ar ddatrysiadau a dogfennau er mwyn sicrhau y dilynir gweithdrefnau a safonau’r cwmni’n gyson
  • Cyfrannu at ddatblygiad platfform technoleg y sefydliad

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â .

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

Gwybodaeth Ychwanegol:-

Atodiadau