Am Y Gwasanaeth

Mae’r Gwasanaethau 24/7 yn gartref i Ganolfan Derbyn Larymau a Theledu Cylch Cyfyng Cyngor Caerdydd sydd wedi'i hachredu ac sy’n cynnwys yr holl offer angenrheidiol. Mae'r Ganolfan yn cynnig teledu cylch cyfyng a gwasanaeth larwm i lawer o adeiladau Cyngor Caerdydd, trwy’r dydd, bob dydd drwy gydol y flwyddyn. Mae'r tîm Wardeniaid Ardal Leol yn gweithredu fel y tîm ymateb ar gyfer yr ystafell reoli. Mae'r tîm yn cynnig ymateb yn y gymuned i gwsmeriaid, gan gwblhau patrolau o adeiladau. 

Am Y Swydd

Mae gennym gyfle cyffrous i unigolion ymroddedig ymuno â’n tîm. Bydd y tîm yn gyfrifol am gynnig gwasanaeth ymateb cymunedol dibynadwy a hyblyg mewn adeiladau sydd angen lefel uchel o ddiogelwch. Mae hyn yn cynnwys patrolio safleoedd, herio ymddygiad gwrthgymdeithasol lefel isel ac ymateb i larymau adeiladau, yn unol â chyfarwyddyd yr ystafell reoli TCC. 

Mae Wardeniaid Lleol wedi eu lleoli yn Neuadd y Sir ond mae’r tîm yn gweithio o bell am y rhan fwyaf o'u diwrnod, yn ymweld ag amryw safleoedd ac yn defnyddio technoleg briodol i gwblhau patrolau ac adroddiadau digwyddiadau ac i gadw mewn cysylltiad â'r ystafell reoli TCC bob amser.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu gweithio’n dda fel aelod o dîm gan weithio’n dda o dan bwysau a chadw pwyll wrth ymdrin â sefyllfaoedd heriol a/neu anodd. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n gyfathrebwyr cryf ac sy’n gallu gweithio'n annibynnol. Mae’r gallu i siarad sawl iaith yn ddymunol.

 

Byddai profiad blaenorol o weithio yn y diwydiant diogelwch yn ddymunol, ond nid yw hyn yn hanfodol. Mae'r rôl yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr feddu ar sgiliau cyfathrebu a TGCh da a'r gallu i gynhyrchu adroddiadau ysgrifenedig i safon uchel, a fydd yn cael eu hasesu yn y cyfweliad.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r Ganolfan Gyswllt ar agor 24/7, bob diwrnod o’r flwyddyn, gan gynnwys Gwyliau Cyhoeddus a Gwyliau Banc. Mae patrwm shifftiau priodol ar waith, gyda thâl ychwanegol a lwfansau perthnasol yn cael eu cynnig.

Yn ddibynnol ar batrwm shifftiau, bydd y rôl yn denu 10% o daliad chwyddo, taliad chwyddo gyda’r nos sef y gyfradd fesul awr ynghyd â 1/3, taliad chwyddo ar y penwythnos o’r gyfradd fesul awr ynghyd â 1/2 a rhoddir oriau dwbl yn ogystal ag oriau yn lle tâl am waith ar Wyliau Banc. Mae'r rôl yn rhan amser, fodd bynnag gall ymgeiswyr llwyddiannus ddisgwyl cyflog sy’n unol â chyflog gweithiwr llawn amser (37 awr yr wythnos). Mae'r rôl hefyd yn cynnig cyfleoedd goramser.

 Rhoddir hyfforddiant llawn. Oherwydd natur y rôl, bydd angen cynnal gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn llwyddiannus. 

 Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg.   Ni chaiff ceisiadau a ddaw i law yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

 

 Mae hon yn swydd barhaol.

 I gael mwy o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Tom Harris, Rheolwr y Ganolfan Derbyn Larymau a’r Ystafell Reoli tharris@caerdydd.gov.uk

 

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â .

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

Gwybodaeth Ychwanegol:-

Atodiadau