Lechyd a Llesiant

  • Strategaeth Iechyd a Llesiant


    Trwy’r strategaeth hon mae gan y Cyngor fframwaith i helpu i wella iechyd a llesiant ein cyflogeion. Ei nod yw hyrwyddo ac annog llesiant yn y gwaith. Mae llesiant yn cynhyrchu agweddau cadarnhaol, ymglymiad, cymhelliant a meddwl arloesol.  Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i barhau i ymdrin â rhwystrau at lesiant yn ogystal â nodi'n rhagweithiol ffyrdd o wella llesiant cyflogeion. Cefnogir yr ymrwymiad hwn gan aelodau etholedig, undebau masnach ac uwch dimau rheoli. Mae gennym fentrau llesiant a dulliau cefnogi cyflogeion ac rydym yn cydweithio â chyflogeion, Undebau Masnach a grwpiau, rhwydweithiau ac asiantaethau partner eraill.

     

    Mae gan y CyngorBolisi a Siarter Iechyd a 

    Llesiant, a fabwysiedir gan gyrff llywodraethu ysgol, er mwyn i gyflogeion ysgolion allu manteisio ar y mentrau a'r dulliau cymorth, yn ychwanegol i'r cymorth a ddarperir eisoes gan gyrff llywodraethu ysgolion unigol.

     

    Rydym wedi cyflawni’r Safon Iechyd Corfforaethol Arian, ac rydym yn gweithio tuag at Aur. 

  • Iechyd Galwedigaethol


    Mae gan y Cyngor ei weithwyr Iechyd Galwedigaethol (IG) ei hun sy’n ystyried yn benodol yr effeithiau gwaith ac iechyd ar allu iechyd ac addasrwydd unigolyn i gyflawni swydd benodol.  Mae ein hadran IG yn cynnwys tîm amlddisgyblaethol sydd ag ystod broffesiynol o wasanaethau meddygol, iechyd, ffisiotherapi a seicolegol.  Yn unol â goblygiadau Iechyd a Diogelwch rydyn ni o’r farn y dylai’r Cyngor ystyried unrhyw faterion iechyd a allai effeithio ar allu cyflogai i wneud ei waith yn ddiogel.  Mae IG hefyd yn cefnogi’r Cyngor o ran ei ddyletswydd statudol i amddiffyn iechyd a llesiant ei gyflogeion a sicrhau dyletswydd gofal. 

  • Rhaglen Cymorth Cyflogeion


    Darperir ein Rhaglen Cymorth Cyflogeion gan Vivup ac mae ar gael i bob cyflogai ac yn cynnig gwasanaeth ffôn cyfrinachol ar gyfer unrhyw fater personol neu waith. Mae’r gwasanaeth ffôn am ddim ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Caiff galwadau eu hateb yn uniongyrchol gan dîm o gwnselwyr cymwys a phrofiadol.  Darperir gwasanaethau gwybodaeth a chyngor proffesiynol hefyd gan dîm ar wahân o arbenigwyr gwybodaeth a all ddelio â phroblemau personol, problemau â pherthnasau, materion teulu, profedigaeth a materion gwaith.  Fel cyflogai, rydych yn gallu derbyn cyngor ar iechyd a ffitrwydd, a bwyta'n iach. Mae cyfoeth o wybodaeth ar y pynciau hyn ar gael trwy wasanaeth gwybodaeth ar y we.

  • Cynllun Beicio i’r Gwaith


    Mae’r Cyngor yn cefnogi'r cynllun beicio i'r gwaith cenedlaethol fel rhan o’i ymrwymiad i iechyd a llesiant ei gyflogeion. 

  • Cyfeiriadur Iechyd a Llesiant


    Mae gennym Gyfeiriadau Iechyd a Llesiant, sef siop un stop le gall cyflogeion ddod o hyd i gymorth a gwybodaeth gynhwysfawr ar amrywiaeth eang o bynciau Iechyd a Llesiant.

  • Cwnsela Wyneb yn Wyneb


    Mae gennym Wasanaeth Cwnsela Cyflogeion mewnol. Mae gan ein cwnselwyr brofiad ac arbenigaeth helaeth ac mae pob un ohonynt wedi’u hachredu gan Gymdeithasu Cwnsela a Seicotherapi Prydain.  

  • Therapi Ymddygiad Gwybyddol (ThYG)


    Mewn partneriaeth â GIG Caerdydd a'r Fro, gall cyflogeion gael eu hatgyfeirio gan yr Arbenigwyr Iechyd Galwedigaeth i gael cymorth mwy dwys i'w helpu i ddelio â materion sy'n eu gorlethu. 

  • Profion Llygaid


    Mae gennym drefniant i gyflogion sy’n defnyddio amrywiaeth o offer sgrin gael profion llygaid am ddim yn rheolaidd. 

  • Cydnabod y Menopos yn y Gweithle


    Mae gennym ganllawiau i helpu rheolwyr i fod yn ymwybodol o faterion sy’n ymwneud â’r menopos a sut gallant effeithio ar eu cyflogeion, un ai ar gyfer unigolion sy’n dioddef o’r cyflwr naturiol hwn o fywyd, neu’r rheiny sydd o bosibl yn cael eu heffeithio'n anuniongyrchol, er enghraifft, rheolwyr llinell a chydweithwyr neu bartneriaid sy'n dioddef o'r cyflwr. 

  • Polisïau Iechyd Meddwl


    Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i hyrwyddo a chynnal iechyd a llesiant meddwl yr holl gyflogeion trwy arferion yn y gweithle, ac annog cyflogeion i gymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd a llesiant meddwl eu hunain.  Gall cyflogeion fanteisio ar ystod o help a chymorth proffesiynol ac ymarferol, sy’n cynnwys y gwasanaethau cwnsela a chyngor hunan gymorth ar-lein. 

  • Addasiadau Rhesymol


    Mae gan y Cyngor Bolisi Presenoldeb a Llesiant cynhwysfawr. Mae’r Polisi yn creu diwylliant o atal salwch a rheoli ar y cyd unrhyw absenoldebau salwch.    Lle bo’n briodol, i gyflogeion sy'n dod dan y Ddeddf Cydraddoldeb, ystyrir addasiadau rhesymol fel ffordd o gefnogi'r cyflogai yn y gweithle a chynnal presenoldeb rheolaidd.  Rydym yn cynnal cynllun pasbort addasiadau rhesymol i gyflogeion.