Gweithio Hyblyg Rydym wedi ymrwymo i ddull 'ystwyth yn ddiofyn', gan sicrhau bod gan ein cyflogeion yr hyblygrwydd i weithio mewn ffordd sy'n addas iddynt wrth gynnal dapariaeth gwasanaeth ragorol. Yn dibynnu ar y rôl, rydym yn cynnig ystod o opsiynau gweithio hyblyg, gan gynnwys gwaith rhan-amser, amserlenni tymor-amser, swyddi a rennir, oriau cywasgedig, gweithio ystwyth, gweithio cartref (lle bo hynny'n briodol), Ar gyfer cyflogeion mewn ysgolion, mae trefniadau gweithio hyblyg yn amodol ar gymeradwyaeth y corff llywodraethu.
Absenoldeb Arbennig Rydym yn cydnabod bod bywyd weithiau yn gofyn i chi gamu i ffwrdd o'r gwaith i ymdrin â materion personol. Mae ein polisi gwyliau arbennig yn cefnogi cyflogeion sydd angen cyfnodau byr o amser i ffwrdd i reoli sefyllfaoedd teuluol neu ddomestig. Yn ogystal, rydym yn annog cyflogeion i gymryd rhan mwen rolau gwasanaeth cyhoeddus ac yn ymdrechu i gydwyso'r ymrwymiadau hyn ag anghenion ein defnyddwyr gwasanaeth.
Polisi Gofalwyr Mae gofalu am anwylyd, ffrind neu gymydog yn realiti y bydd llawer ohonom yn ei wynebu ar ryw adeg yn ein bywydau. Rydym yn cydnabod y rôl hanfodol y mae gofalwyr yn ei chwarae yn ein cymuned a'n gweithlu. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd gwaith hyblyg a chefnogol, gan ganiatáu i gyflogeion â chyfrifoldebau gofalu gydbwyso eu gwaith a'u hymrwymiadau personol yn effeithiol.
Cymorth Tadolaeth, Mamolaeth a Mabwysiadu Yng Nghyngor Caerydd, rydym yn deall pwysigrwydd cydbwyso bywyd teuluol a gwaith. Dyna pam rydym yn cynnig ystod o bolisïau cefnogol i helpu cyflogeion yn ystod digwyddiadau bywyd arwyddocaol. Yn ogystal â'r absenoldeb mamolaeth a thadolaeth traddodiadol, rydym yn darparu absenoldeb mabwysiadu, bsenoldeb cymorth mabwysiadu, ac absenoldeb cymorth mamolaeth i gydnabod y cyfrifoldebau ychwanegol sy'n dod gyda chroesawu plentyn newydd i'ch cartref.
Absenoldeb Rhiant Rydym yn mynd y tu hwnt i'r isafswm statudol i ddarparu opsiynau absenoldeb rhiant hael i bob rhiant, gan gynnwys cyplau o'r un rhyw. Mae ein polisiau absenoldeb rhiant yn caniatáu i gyflogeion gymryd amser i ffwrdd di-dâl i ofalu am eu plentyn, trefnu gofal plant, neu dreulio mwy o amser o ansawdd gyda'u teulu. Mae'r hyblygrwydd hwn yn helpu ein cyflogeion i gael gwell cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd cartref.
Amser o'r Gwaith ar gyfer Dibynyddion Mae sefyllfaoedd annisgwyl yn digwydd, ac rydym yma i gefnogi ein cyflogeion pan fydd angen iddynt ofalu am ddibynnydd. Mae ein polisi yn caniatáu swm rhesymol o absenoldeb di-dâl i ddelio ag argyfyngau a gwneud trefniadau hirdymor angenrheidiol, gan sicrhau bod cyflogeion yn cael yr amser sydd ei angen arnynt pan fydd yn fwyaf pwysig.