Am Y Gwasanaeth
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolion ymroddedig ymuno â Gofal Cartref y Tîm Adnoddau Cymunedol (TAC) sy'n gweithredu ledled Caerdydd. Rydym yn cefnogi dinasyddion Caerdydd i atal derbyniadau diangen i'r ysbyty, gan hwyluso rhyddhau cleifion o'r ysbyty a cheisio helpu pobl i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr iechyd i gefnogi’r defnyddiwr gwasanaethau gyda’u hamcanion ailalluogi ac i gyflawni’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw. Rydym yn cynnal asesiad gyda'r defnyddiwr gwasanaeth er mwyn llunio cynllun i gefnogi ei anghenion unigol a'i gynorthwyo i gyflawni ei nodau llesiant.
Am Y Swydd
Bydd staff gofal yn derbyn y raddfa dâl gynyddol a ailraddwyd yn ddiweddar. Bydd staff gofal yn cefnogi’r cleient i gyflawni ei dargedau, gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol iechyd. Mae cynllun cyflenwi gwasanaeth yn cefnogi’r gofalwr wrth ei dasgau pob dydd. Mae gofalwyr yn gweithio i rota, gan weithio shifftiau. Mae gan bob gofalwr ddyfais symudol sy'n dyrannu eu tasgau dyddiol.
Mae’r swydd hon yn barhaol, 30 awr yr wythnos.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Mae sgiliau arsylwi a chofnodi da yn hanfodol, ac mae agwedd hyblyg â ffocws bendant yn ofynnol i allu gweithio mewn gwasanaeth dynamig sy’n newid yn gyflym. Mae natur ofalgar a’r gallu i hyfforddi i gyflawni’r lefel HSc (NVQ/QCF yn flaenorol) berthnasol yn ofynnol ar gyfer y swydd.
Byddai'r gallu i siarad teethed eraill, yn enwedig y Gymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol yn fantais.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rydym yn deall efallai y byddwch yn defnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, sicrhewch fod yr holl wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn ffeithiol gywir, yn wir, yn wreiddiol, ac nad yw’n cynnwys syniadau na gwaith nad ydynt eich rhai chi eich hun.
Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Robina Samuddin, robina.samuddin3@caerdydd.gov.uk.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau