Mae'n ddrwg gennym, nid yw'n bosibl ymgeisio ar gyfer y swydd hon bellach

Ynglŷn â'r Gwasanaeth

Nod Caerdydd dwyieithog yw chwarae rôl flaenllaw mewn datblygu Caerdydd gwbl ddwyieithog lle gall dinasyddion a staff Cyngor Caerdydd gael mynediad at wasanaethau a chymorth o'r un safon yn Gymraeg a Saesneg.  Mae'r tîm yn gyfrifol am hwyluso a hyrwyddo'r Gymraeg yng Nghaerdydd ar y cyd â'n partneriaid, a chynorthwyo'r Cyngor i gydymffurfio â'i ddyletswydd statudol i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg, a hynny’n cynnwys gwasanaeth cyfieithu llawn.

Ynglŷn â’r swydd

Ydych chi am weld y Gymraeg yn tyfu ac yn ffynnu yng Nghaerdydd a bod yn rhan o'n gweledigaeth i greu Caerdydd wirioneddol ddwyieithog?  Os felly, efallai mai hon yw’r rôl i chi! Mae uned Caerdydd Ddwyieithog yng Nghyngor Caerdydd yn chwilio am Uwch Gyfieithydd ar y Pryd i ymuno â'r tîm.

 

Byddwch yn ymateb i amrywiaeth o geisiadau cyfieithu ar y pryd gan gynnwys cyfarfodydd mewnol, cyfarfodydd cynghorwyr a chyfarfodydd gyda rhanddeiliaid allanol. Byddwch hefyd yn cyfieithu mewn sefyllfaoedd amrywiol megis digwyddiadau a chyfweliadau swydd.

Byddwch hefyd yn barod i gynorthwyo gyda’r gwaith o gydlynu ceisiadau cyfieithu ar y pryd, ac i wneud cyfieithu ysgrifenedig yn ystod cyfnodau tawel o ran cyfieithu ar y pryd.

Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar radd dda yn y Gymraeg neu gymhwyster cyfwerth gyda phrofiad sylweddol gyfieithu ar y pryd. Dylech fod yn aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru neu fod yn barod i sefyll yr arholiad.  Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Yr Hyn Rydym yn ei Ddisgwyl Gennych Chi

Bydd gennych sgiliau cyfieithu ar y pryd o'r safon uchaf, a byddwch yn cynorthwyo'r Prif Gyfieithydd - Systemau gyda dyletswyddau sy'n ymwneud â'r llwyth gwaith cyfieithu ar y pryd a’i gydlynu. Byddai gallu i gyfieithu ar y pryd o’r Saesneg i’r Gymraeg hefyd yn ddefnyddiol.

 

Mae'r gallu i weithio dan bwysau a gorffen gwaith yn brydlon a gweithio'n drefnus a chyda disgyblaeth yn gwbl hanfodol i'r swydd hon, yn ogystal â'r gallu i weithredu a chyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg. Er mai swydd cyfieithu ar y pryd yw hon yn ei hanfod, bydd angen i chi feddu ar sgiliau cyfieithu testun hefyd.

 

 

Bydd y rôl yn cynnig cryn hyblygrwydd gan ddibynnu ar amseroedd cyfarfodydd a digwyddiadau, felly gallai eich oriau a’ch diwrnodau gwaith amrywio i fodloni’r angen hwn mewn ffordd sy’n gyfleus i chi, ar yr amod y bodlonir anghenion y gwasanaeth.

Gwybodaeth ychwanegol

Dylai’r ymgeiswyr llwyddiannus allu cyfathrebu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg hyd at Lefel 5 – Hyfedredd. Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.  Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg.      Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.  Gall y cyfweliad ar gyfer y rôl hon gael ei gynnal yn rhithwir neu wyneb yn wyneb. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, cysylltwch â Ffion Gruffudd, ffgruffudd@caerdydd.gov.uk. Nodwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs.  Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:   Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

• Canllaw ar Wneud Cais

• Gwneud cais am swyddi gyda ni

• Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol  Gwybodaeth Ychwanegol:  

• Siarter Cyflogeion 

• Recriwtio Cyn-Droseddwyr 

• Hysbysiad Preifatrwydd

Atodiadau