Ynglŷn â'r Gwasanaeth
Nod Caerdydd dwyieithog yw chwarae rôl flaenllaw mewn datblygu Caerdydd gwbl ddwyieithog lle gall dinasyddion a staff Cyngor Caerdydd gael mynediad at wasanaethau a chymorth o'r un safon yn Gymraeg a Saesneg. Mae'r tîm yn gyfrifol am hwyluso a hyrwyddo'r Gymraeg yng Nghaerdydd ar y cyd â'n partneriaid, a chynorthwyo'r Cyngor i gydymffurfio â'i ddyletswydd statudol i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg, a hynny’n cynnwys gwasanaeth cyfieithu llawn.
Ynglŷn â’r swydd
Ydych chi am weld y Gymraeg yn tyfu ac yn ffynnu yng Nghaerdydd a bod yn rhan o'n gweledigaeth i greu Caerdydd wirioneddol ddwyieithog? Os felly, efallai mai hon yw’r rôl i chi! Mae uned Caerdydd Ddwyieithog yng Nghyngor Caerdydd yn chwilio am ddau Uwch Gyfieithydd i ymuno â'r tîm.
Disgwylir i'r ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar radd dda yn y Gymraeg neu gymhwyster cyfwerth gyda phrofiad sylweddol gyfieithu. Dylech fod yn aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru neu fod yn barod i sefyll yr arholiad. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Yr Hyn Rydym yn ei Ddisgwyl Gennych Chi
Bydd gennych sgiliau cyfieithu a phrawfddarllen o’r safon uchaf, a byddwch yn cynorthwyo'r Prif Gyfieithydd perthnasol â dyletswyddau sy'n ymwneud â meysydd sicrhau ansawdd, systemau cyfieithu a llwyth gwaith.
Mae'r gallu i weithio dan bwysau a gorffen gwaith yn brydlon a gweithio'n drefnus a chyda disgyblaeth yn gwbl hanfodol i'r swydd hon, yn ogystal â'r gallu i weithredu a chyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Bydd y rôl yn cynnig cryn hyblygrwydd o ran oriau a lleoliad gwaith, a gwahoddwn geisiadau o Gymru benbaladr. Felly gallai eich oriau gwaith amrywio mewn ffordd sy’n gyfleus i chi, ar yr amod y bodlonir anghenion y gwasanaeth.
Gwybodaeth ychwanegol
Dylai’r ymgeiswyr llwyddiannus allu cyfathrebu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg hyd at Lefel 5 – Hyfedredd. Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Gall y cyfweliad ar gyfer y rôl hon gael ei gynnal yn rhithwir neu wyneb yn wyneb. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, cysylltwch â Ffion Gruffudd, ffgruffudd@caerdydd.gov.uk. Nodwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan: Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
• Canllaw ar Wneud Cais
• Gwneud cais am swyddi gyda ni
• Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol Gwybodaeth Ychwanegol:
• Siarter Cyflogeion
• Recriwtio Cyn-Droseddwyr
• Hysbysiad Preifatrwydd
Atodiadau