Cyfraniadau Pensiwn Helaeth Rydym yn cynnig mynediad i ddau gynllun pensiwn yn dibynnu ar eich rôl ac mae'r Cyngor yn darparu cyfraniadau cyflogwr hael, a gallwch roi hwb i'ch pensiwn gyda chyfraniadau treth-effeithlon. Mae yswiriant bywyd hefyd wedi'i gynnwys: Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu’r Mae pob gweithiwr sydd â chontract dros dri mis yn cael ei gofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, ac os ydych chi'n athro, cewch eich cofrestru o'r diwrnod cyntaf i’r Cynllun Pensiwn Athrawon. Mae eich pensiwn terfynol yn ddiogel - mae'n seiliedig ar eich cyflog a nifer eich blynyddoedd yn y cynllun, nid y marchnadoedd ariannol. Byddwch hefyd yn cael datganiadau blynyddol fel y gallwch weld eich pensiwn yn tyfu dros amser. Fel aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, gallwch roi hwb i hyn gyda’n Cynllun CGY Rhannu Cost drwy ein partneriaid yn My Money Matters. Byddwch yn arbed arian ar Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol – gan ei wneud yn ffordd graff o dyfu eich cynilion ymddeoliad hyd yn oed yn gyflymach.
Yswiriant Bywyd Mae’r cynlluniau pensiwn a nodir uchod yn cynnwys yswiriant bywyd. Gallai eich gŵr/gwraig neu bartner sifil, neu berson arall a enwebir fod yn gymwys i dderbyn budd-dal marw yn y swydd sef cyfandaliad a phensiwn, cyfrifir y swm gan weinyddwyr y cynllun pensiwn perthnasol.
Teithio a Phrofion MOT â Gostyngiad Mae modd manteisio ar docynnau rheilffordd a Bws Caerdydd blynyddol am lai, ynghyd â phrofion MOT rhatach ar gyfer cerbydau preifat yn ein cyfleusterau.
Gall gweithwyr fanteisio ar aelodaeth â gostyngiad ymmhob Canolfan Hamdden Better Caerdydd ac yng Nghanolfan Hamdden Trem y Môr.Cyfleusterau Hamdden â Gostyngiad
Mae ein platfform buddion gweithwyr, MyLifestyle, yn cynnig arbedion ar hanfodion fel bwydydd, gwyliau, tocynnau sinema, a mwy. Byddwch hefyd yn cael mynediad i'n Cynllun Beicio i'r Gwaith, Cynlluniau Yswiriant Deintyddol, Teithio â Gostyngiad a'n Rhaglen Cymorth Gweithwyr.Cynllun Gostyngiadau i Weithwyr – Reward Gateway / MyLifestyle
Rydym yn cynnig pecyn gwyliau blynyddol hael, ganddechrau ar 28 diwrnod a chodi i 33 diwrnod ar ôl 5 mlynedd, ynghyd â'r opsiwni brynu hyd at 10 diwrnod ychwanegol bob blwyddyn.Hawl i Wyliau Blynyddol
Cymorth Absenoldeb Salwch
Rydym yn cynnig amodau a thâl salwch hael, gan sicrhau eich bod yn cael eich cefnogi yn ystod heriau iechyd.
Gallwch gymryd hyd at 2 flynedd o absenoldeb di-dâl i ddilyn nodau personol, gyda'r sicrwydd o ddychwelyd i'ch swydd ar yr un telerau.Cyfnod Sabothol
Os oes angen teithio yn rhan o’ch rôl, rydym yn cynnig Cynllun Lwfans Car gydag ad-daliad ar gyfraddau Cyllid a Thollau EF.Cynllun Lwfans Teithio
Mwynhewch fynediad i'n ffreutur ar y safle, aelodaeth llyfrgell am ddim ar gyfer llyfrau digidol ac eLyfrau, a gwasanaethau ariannol drwy Undeb Credyd Caerdydd. Yng Nghyngor Caerdydd, rydym yn blaenoriaethu eich lles a'ch datblygiad gyrfaol gyda buddion cynhwysfawr sy'n eich helpu i ffynnu!Manteision Ychwanegol