Dysgu a Datblygu

  • Academi Caerdydd


    Mae gan Gyngor Caerdydd ei uned Dysgu a Datblygu ei hun o’r enw yr Academi. Mae’n cynnig amrywiaeth o gyfleusterau hyfforddi yn lleoliad ysblennydd Neuadd y Ddinas lle rydym yn darparu ystod eang o gyrsiau a fydd yn helpu cyflogeion i fodloni eu hanghenion. Hefyd, mae pecyn cynhwysfawr o gyrsiau ar-lein ar gael ac mae cyflogeion yn cael eu hannog i fanteisio ar y rhain fel rhan o'u datblygiad. 

  • Sefydlu


    Fel aelod newydd o staff cewch eich gwadd i gymryd rhan mewn proses sefydlu, sydd wedi’i dylunio i'ch croesawu chi a’ch helpu i sefydlu eich hun yn gyflym ac yn effeithiol i mewn i’ch rôl newydd. Bydd y broses sefydlu yn eich helpu i weld sut rydych yn ffitio yn y sefydliad ehangach a deall sut y gallwch gyfrannu at nodau ac amcanion y Cyngor.  

  • Cymraeg


    Mae’r Cyngor yn annog ac yn cefnogi aelodau o staff i ddysgu Cymraeg neu i wella eu sgiliau Cymraeg ac yn cynnig pecyn hyblyg o gyfleoedd hyfforddi wedi’i ariannu’n gorfforaethol sy’n galluogi staff a rheolwyr i ddewis yr opsiwn gorau ar gyfer eu gwasanaeth penodol.

     

    Rydym yn annog pob aelod o staff i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg, ac yn ceisio cynnig cymorth a chyfleoedd i siaradwyr addysgwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn y gwaith.

     

    Mae gan y Cyngor rwydwaith o gydlynwyr a phencampwyr y Gymraeg ledled ein Cyfarwyddiaethau a’n Gwasanaethau amrywiol, sy’n cefnogi gwaith tîm Caerdydd Ddwyieithog o ran gweithredu Safonau’r Gymraeg a hyrwyddo’r Gymraeg yn fewnol

    .

  • Hyfforddi a Mentora


    Mae hyfforddi a mentora yn ddulliau effeithiol o ran datblygu cyflogeion. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i wella sgiliau, gwybodaeth a pherfformiad cyflogeion. Yng Nghyngor Caerdydd, rydym yn defnyddio dulliau hyfforddi a mentora i gysylltu’r angen gyda strategaethau dysgu a datblygu cyffredinol. 

  • Hyfforddiant ôl-fynediad


    Gallai hyfforddiant ôl-fynediad fod ar gael, yn dibynnu ar y math o swydd y cewch eich cyflogi i’w gwneud.  Cydnabyddir bod angen cefnogi cyflogeion â chymwysterau proffesiynol lle bo’n bosibl yn dibynnu ar y cwrs y gofynnir amdano, gofynion datblygu / gofynion cynllunio’r gweithlu ac anghenion datblygu’r cyflogai.  

  • Ad-dalu Ffioedd Cofrestru Proffesiynol


    Bydd ffioedd cofrestru proffesiynol i gyflogeion a gyflogir ar gyfer gweithgareddau wedi’u rheoleiddio (e.e.athrawon, gweithwyr cymorth yn yr ystafell ddosbarth, gweithwyr cymdeithasol, cyflogeion gofal plant preswyl, tystysgrif ymarfer blynyddol i Gyfreithwyr) ac sydd angen cynnal eu cofrestriad â chorff proffesiynol er mwyn gallu gweithio yn cael eu had-dalu gan y Cyngor. 

  • Prentisiaethau


    Mae’r Cyngor yn hyrwyddo'r cyfle i fanteisio ar gymwysterau galwedigaethol proffesiynol a ariennir yn llawn i'ch cefnogi i ddatblygu eich gyrfa.

     

    Gallwn helpu i gyrchu cymwysterau prentisiaeth a ariennir yn llawn sy'n addas ar gyfer y mwyafrif o swyddi a gyrfaoedd ar hyd a lled y Cyngor.   Mae astudio ar gyfer cymhwyster prentisiaeth yn cynnwys dilyn rhaglen datblygu penodol y gellir ei theilwra i ddiwallu eich anghenion ac sy’n gysylltiedig â’r rôl. Mae fel arfer yn cynnwys sesiynau hyfforddi a datblygu misol ar y safle gydag aseswr darparwr hyfforddiant dynodedig ac, yn dibynnu ar y cymhwyster a'r darparwr, gall gynnwys peth hyfforddiant neu gymorth oddi ar y safle.