Ynglŷn â'r gwasanaeth

Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn rhan o Cymorth Cynnar Caerdydd.  Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn cael eu harwain yn strategol gan Uwch Seicolegydd Addysg ac yn cynnwys timau sy'n darparu rhaglenni rhianta grŵp ac unigol ac ymyriadau, a hynny ledled Caerdydd. Rydym yn gweithio mewn lleoliadau cymunedol, cartrefi teuluoedd ac mewn lletyau fel hosteli. Mae'r swydd wag bresennol yn rhan o'n gwasanaeth Dechrau'n Deg sy’n ehangu, lle rydym wedi bod yn ymateb i anghenion esblygol yng Nghaerdydd, gan gefnogi teuluoedd mewn ardaloedd ledled y ddinas i fanteisio ar eu hawl Dechrau'n Deg.

Mae gennym ganolfannau swyddfa ar draws Caerdydd, ac mae gennym hefyd offer ar gyfer gweithio gartref.

Gallwch ddysgu mwy am elfennau Cymorth Cynnar trwy fynd i’r wefan www.teuluoeddcaerdydd.co.uk.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am ein Gwasanaethau Rhianta ar-lein:

Rhianta Caerdydd 0-18 – Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd: Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd (teuluoeddcaerdydd.co.uk) 

Rydym hefyd yn postio ar ein tudalennau Twitter a Facebook – chwiliwch am Cardiff Parenting – Rhianta Caerdydd i gael gwybod mwy.

Dyma sydd i’w ddweud gan staff sy’n gweithio yn y tîm yn bresennol: 'Mae'n wych bod yn rhan o dîm cefnogol sy'n gweithio yn rhyfeddol o dda gyda'i gilydd ac sydd wastad yna i'w gilydd'

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch i gwblhau'r cais am swydd hon, gall ein tîm Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith eich helpu. Er mwyn derbyn rhagor o gymorth cysylltwch 029 2087 1071 neu e-bostio cyngorimewniwaith@caerdydd.gov.uk

Ynglŷn â’r swydd

Rydym yn ehangu ein Gwasanaethau Dechrau'n Deg ar draws Caerdydd. Ar hyn o bryd, mae Tîm Grwpiau Dechrau'n Deg Caerdydd yn darparu sesiynau galw heibio anffurfiol a Rhaglenni Rhianta ymgysylltiol hwyl mewn lleoliadau cymunedol ledled y ddinas. Rydym yn ceisio adeiladu ar y cynnig hwn. 

Cyd-hwyluso gydag Uwch Hwylusydd Grŵp Rhieni, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at gynllunio, darparu, monitro, a gwerthuso, rhaglenni effeithiol o gefnogaeth ac ymyrraeth, sy'n arbennig o gynhwysol o ran teuluoedd sydd â phlant dan 4 oed. Bydd yn cyfrannu'n rhagweithiol at greu amgylchedd croesawgar a chynhwysol sy'n sensitif i anghenion oedolion a phlant sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwn.  Bydd yn meithrin lle diogel i rieni a phlant chwarae a rhyngweithio, i gefnogi lles a gwella sgiliau rhianta cadarnhaol. Gan gynnwys arwain ar ddarpariaeth crèche lle mae'n cefnogi teuluoedd i gael mynediad at gymorth grŵp rhianta.

 

Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych chi

Mae cymhwyster L3 mewn Gofal Plant, Dysgu, Chwarae a Datblygu yn hanfodol (gweler y disgrifiad swydd a’r manyleb person i gael rhagor o fanylion am gymwysterau). Wrth wneud cais, cyfeiriwch at sut rydych chi'n bodloni meini prawf hanfodol y manyleb person sydd ynghlwm.

Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at gynllunio a darparu gwasanaethau sy'n hyrwyddo rhyngweithio rhwng rhieni a phlant, meithrin a chefnogi datblygiad plant a chynnig lle diogel i rieni a phlant chwarae a rhyngweithio i gefnogi lles a gwella sgiliau magu plant positif. Gall deiliad y swydd fod yn gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth sy'n profi her a thrawma felly bydd rhaid iddo gael agwedd anfeirniadol, gan ddangos empathi a dealltwriaeth.

Rhaid i ymgeiswyr fod â gwybodaeth gynhwysfawr am anghenion datblygiadol plant ac yn gallu cyflwyno gwybodaeth i rieni am ddatblygiad eu plentyn neu ddulliau magu plant mewn modd sensitif. Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at gynllunio a darparu gwasanaethau sy'n hyrwyddo rhyngweithio rhwng rhieni a phlant, meithrin a chefnogi datblygiad plant a chynnig lle diogel i rieni a phlant chwarae a rhyngweithio i gefnogi lles a gwella sgiliau magu plant cadarnhaol.

Bydd deiliad y swydd yn derbyn ac angen datrys problemau ac ymateb yn briodol i ddatgeliadau gan ddefnyddwyr gwasanaeth sy'n ymwneud â phlant a/neu oedolion sy’n agored i niwed, amddiffyn plant a/neu gam-drin domestig. Ceisio cefnogaeth a chyngor gan yr Uwch hwylusydd i ddilyn protocolau a gweithdrefnau yn effeithlon yn ôl yr angen

Mae’n rhaid cael trwydded yrru lân a cherbyd i’w ddefnyddio oherwydd bydd gofyn teithio trwy holl ardaloedd y ddinas fel rhan o’r rôl.

Rydym yn cymryd lles ein staff o ddifrif ac yn ymdrechu bob amser i greu amgylchedd gwaith cadarnhaol gan sicrhau bod ein gweithlu anhygoel yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi.

Dyma rai enghreifftiau o sut rydym yn ceisio cyflawni hyn:

Hawl gwyliau blynyddol hael.

Mynediad i Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg sy’n rhan o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy’n cynnig cynllun pensiwn dibynadwy, diogel a hyblyg.

Mynediad gwarantedig i Hyfforddiant a Datblygiad pellach i roi cyfle i chi ddatblygu eich gyrfa gyda ni.

Mynediad i rwydweithiau cydraddoldeb gweithwyr ar gyfer cefnogaeth, arweiniad a chymdeithasu (mae'r rhwydweithiau hyn yn cynnwys y Rhwydwaith Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Rhwydwaith Gofalwyr, Rhwydwaith Anabledd, Rhwydwaith LHDT a Rhwydwaith y Merched).

Mynediad at gymorth lles gweithwyr cynhwysfawr.

Mynediad i Lwyfan Buddiannau Gweithwyr MyMantages (sy’n cynnwys mynediad at Gynllun Beicio i’r Gwaith y Cyngor a gostyngiadau unigryw mewn manwerthwyr fel Asda, Tesco ac Ikea).

Gwybodaeth Ychwanegol

Swydd dros dro yw hon tan 31 Mawrth 2026. Os hoffech chi fwy o wybodaeth cysylltwch â Sara Wiggins ar 07816543012

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig perthnasol ar radd nad yw’n is nag RhG2, neu yn achos staff mewn ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu, all gymeradwyo ceisiadau.

Mae’r swyddi hyn yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

Gwybodaeth Ychwanegol:-

Atodiadau