Mae'n ddrwg gennym, nid yw'n bosibl ymgeisio ar gyfer y swydd hon bellach

Am Y Gwasanaeth

Cylch gwaith Caerdydd Ddwyieithog yw cymryd rôl flaenllaw wrth ddatblygu Caerdydd gwbl ddwyieithog lle gall dinasyddion a staff Cyngor Caerdydd gael gafael ar wasanaethau a chymorth o'r un safon yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Mae'r tîm yn gyfrifol am hwyluso a hyrwyddo’r iaith Gymraeg yng Nghaerdydd ar y cyd â’n partneriaid, ac yn cynorthwyo’r Cyngor i gydymffurfio â’i ddyletswydd statudol i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg, sy'n cynnwys gwasanaeth cyfieithu llawn.

Am Y Swydd

Ydych chi am weld y Gymraeg yn tyfu a ffynnu yng Nghaerdydd a bod yn rhan o'n gweledigaeth ni i greu Caerdydd gwirioneddol ddwyieithog?
Os felly, mae’n bosib taw hon yw’r swydd i chi!
Mae uned Caerdydd Ddwyieithog yng Nghyngor Caerdydd yn chwilio am Uwch Gyfieithydd i ymuno â’r tîm. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â gradd dda yn y Gymraeg neu gymhwyster cyfatebol â phrofiad sylweddol o gyfieithu’n broffesiynol.

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru neu fod yn barod i sefyll yr arholiad.

Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus allu cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg i
Lefel 5 – Hyfedr

Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.

Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na rhai Saesneg


This is a position for which the ability to speak Welsh is an essential requirement.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Byddwch yn meddu ar sgiliau cyfieithu a phrawf ddarllen o’r safon uchaf ac yn cynorthwyo’r Prif Gyfieithydd – Ansawdd gydag unrhyw ddyletswyddau’n ymwneud â’r rôl e.e. dirprwyo mewn cyfarfodydd yn ôl yr angen, cyfrannu at adolygu canllawiau cyfieithu, cynghori aelodau’r tîm ar unrhyw newidiadau i’r derminoleg, cyfrannu at bennu enwau ymgyrchoedd, prosiectau, strategaethau a deunydd cyhoeddus.

Gwybodaeth Ychwanegol

Dylai’r ymgeiswyr llwyddiannus allu cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg hyd at Lefel 5 – Hyfedr.

Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Nid yw ceisiadau yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na rhai Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

O ganlyniad i’r amgylchiadau COVID-19 presennol, bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, cysylltwch â
Ffion Gruffudd , ffgruffudd@caerdydd.gov.uk.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
• Canllaw ar Wneud Cais
• Gwneud cais am swyddi gyda ni
• Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:-
• Siarter Cyflogeion
• Recriwtio Cyn-Droseddwyr
• Hysbysiad Preifatrwydd

Atodiadau