Oriau gwaith hyblyg Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i oriau gwaith hyblyg drwy greu'r amgylchedd cywir sy'n cefnogi cynllun gweithio’n hyblyg. Mae hyn yn cynnig y cyfle i weithio’n fwy effeithiol drwy ystyried proffiliau ffordd o weithio pob cyflogai er mwyn iddynt allu rheoli eu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a chynnig gwasanaeth gwych i’n cwsmeriaid. Rydym yn cynnig y gallu i gyflogeion yn y mwyafrif o swyddi, i weithio’n rhan amser*, yn ystod y tymor*, rhannu swydd*, oriau cywasgedig, gweithio’n hyblyg, gweithio o gartref (lle bo’n briodol) neu, ar gyfer rhai mathau o swyddi amser hyblyg. (* mae’r mathau hyn o gynlluniau gweithio hyblyg ar gael i gyflogeion mewn ysgolion, yn unol â’r corff llywodraethu).
Gwyliau Arbennig Mae’r Cyngor yn cydnabod bod yna adegau pan fo angen i gyflogeion gael cyfnodau byr o amser i ffwrdd o'r gwaith i ddelio â sefyllfaoedd teuluol a domestig. Hefyd, rydym yn cydnabod bod nifer o feysydd o wasanaeth cyhoeddus yn dibynnu ar gefnogaeth ac ewyllys da cyflogwyr sy’n caniatáu i gyflogeion gael amser i ffwrdd o'r gwaith i gyflawni dyletswyddau o'r fath. Mae’r Cyngor yn dymuno annog ei gyflogeion i gyflawni dyletswyddau gwasanaeth cyhoeddus, ond rhaid cydbwyso hyn gydag anghenion defnyddwyr gwasanaeth.
Amser i Ffwrdd ar gyfer Dibynyddion Mae’r Cyngor yn cefnogi cyflogeion i gymryd cyfnod rhesymol o amser di-dâl i ffwrdd o’r gwaith i ddelio â sefyllfaoedd annisgwyl sy'n cynnwys dibynnydd ac i wneud unrhyw drefniadau tymor hirach angenrheidiol.
Cymorth Tadolaeth, Mamolaeth a Mabwysiadu Mae’r Cyngor yn cydnabod y gall cyflogeion ddymuno cyfuno bywyd teuluol a gwaith, ac mae ganddo amrywiaeth o bolisïau mewn lle i helpu gyda hyn. Yn ogystal â hawliadau traddodiadol yn ein polisïau Gwyliau Mamolaeth a Thadolaeth, rydym yn cydnabod y cyfrifoldebau ychwanegol a ddaw gyda babi newydd, neu fabwysiadu plentyn, ac mae'n cynnig hawliadau i Wyliau Mabwysiadu, Gwyliau Cymorth Mabwysiadu a Gwyliau Cymorth Mamolaeth. Hefyd, dan ein polisïau Gwyliau Mamolaeth a Rhieni mae gan rieni (gan gynnwys cyplau o'r un rhyw) yr hawl i gymryd amser di-dâl i ffwrdd o’r gwaith i ofalu am blentyn neu wneud trefniadau er lles plentyn. Gall rhieni ddefnyddio’r amser hwn i dreulio mwy o amser gyda’r plant a chael cydbwysedd gwell rhwng eu hymrwymiadau gwaith a theuluol. Mae ein polisïau yn ehangu ar yr hawliau statudol sydd yn y ddeddfwriaeth cyflogaeth ac yn cynnig gwyliau rhianta helaeth i gyflogeion.