Ni ddylai unrhyw ymgeisydd, cyflogai neu ddefnyddiwr gwasanaeth gael ei drin yn llai ffafriol ar sail oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd/ailbennu rhywedd, priodas a pharteriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, (gan gynnwys cyplau o'r un rhyw), hil, crefydd, cred neu ddiffyg cred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a'r Gymraeg.
Ymgeiswyr ag anabledd
Mae Cyngor Caerdydd yn achrededig fel Cyflogwr Hyderus ag Anabledd ac mae’n hyrwyddo ymrwymiad i arfer da mewncyflogaeth anabledd. Yn rhan o’r ymrwymiad hwn, cynigir cyfweliad i ymgeiswyrag anabledd ac sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl, gan ofyniddynt cyn dod a oes angen gwneud unrhyw addasiadau rhesymol i’w galluogi igymryd rhan yn y broses.
Cynllun CydnabodCyflogwyr Amddiffyn
Mae Cyngor Caerdydd wedi ennill Gwobr Arian Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn i gydnabod ei gefnogaeth a'i ymrwymiad i gymuned y lluoedd arfog. Byddwn bob amser yn croesawu ceisiadau am swyddi gan aelodau o'r lluoedd arfog, gan gynnwys milwyr wrth gefn a chadetiaid na fyddant byth o dan anfantais annheg ar unrhyw adeg o'n proses recriwtio a dethol.
Angen help i ymgeisio am y swyddi hyn? Cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith
Ffôn: 029 2087 1071
Ebost: CyngoriMewniWaith@caerdydd.gov.uk