Urddas yn y Gwaith

  • Cydraddoldeb ac Amrywiaeth


    Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfleodd cyfartal ac amrywiaeth o ran cyflogaeth a darpariaeth gwasanaeth.  Caiff hyn ei arddangos gan ein haelodaeth a'n hachrediad i sefydliadau a chyrff cydnabyddedig cenedlaethol fel y Sefydliad Cyflog Byw, Rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall, y Siarter Hil yn y Gwaith, Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac Aelodaeth Ymbarél â Chyflogwyr ar gyfer Gofalwyr. Fel sefydliad sector cyhoeddus mawr, mae’n bwysig i ni ein bod ni’n cefnogi llesiant economaidd ein dinasyddion a bod y gweithlu’n adlewyrchu’n well y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.  

     

    Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth.  Felly, er nad yw’n ofynnol er mwyn gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion sydd wedi'u tangynrychioli gan gynnwys y rheiny;

     

    •   sydd dan 25

    •   nad ydynt mewn gwaith, addysg na hyfforddiant

    •   o’n cymunedau lleol gan gynnwys unigolion anabl, gofalwyr a’r rheiny o gymunedau Pobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig a LHDTh+ Caerdydd  

    •   sy’n gallu cyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg

     

    Ni ddylai unrhyw ymgeisydd, cyflogai neu ddefnyddiwr gwasanaeth gael ei drin yn llai ffafriol ar sail oedran, anabledd, hunaniaeth rywiol/ailbennu rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, (gan gynnwys cyplau o’r un rhyw), hil, crefydd, cred neu ddiffyg cred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a’r Iaith Gymraeg.

     

    Mae Caerdydd yn ddinas amlddiwylliannol ag amrywiaeth gyfoethog.  Mae’r Cyngor yn dathlu ac yn gwerthfawrogi'r amrywiaeth hwn a ddaw i’w weithlu trwy unigolion ac mae’n ceisio creu amgylchedd cynhwysol lle caiff cyflogeion a chyflogeion arfaethedig eu trin ag urddas a pharch.  Mae gennym amrywiaeth o Bolisïau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth wedi’u dylunio i hyrwyddo cydraddoldeb, dathlu amrywiaeth ym mhob un o’n gweithgareddau a chael gwared ar wahaniaethu sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth ac arfer gorau i’n cwsmeriaid, defnyddwyr gwasanaeth, cyflogeion a’r holl randdeiliaid.  

  • Rhwydweithiau Cydraddoldeb Cyflogeion


    Rydym yn falch o’n Rhwydweithiau Cydraddoldeb Cyflogeion sy’n cynnig adnodd a chefnogaeth allweddol a gwerthfawr i’r Cyngor a’i gyflogeion.   

     

    Mae’r Rhwydweithiau Cyflogeion yn darparu adnodd allweddol a gwerthfawr ac yn cefnogi’r Cyngor i gyflawni ei ddyletswyddau dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i hyrwyddo cydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, aflonyddwch ac erledigaeth a hyrwyddo perthnasoedd da rhwng gwahanol grwpiau. Grwpiau annibynnol sy’n trefnu eu hunain yw’r Rhwydweithiau Cyflogeion. Maent yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr sydd â diddordebau / arbenigedd / profiad yn eu meysydd cydraddoldeb penodol.

     

    Mae gan y Cyngor bum Rhwydwaith Cyflogeion ar hyn o bryd sydd ar agor i bob cyflogai sydd â diddordeb mewn gweithgareddau Rhwydwaith Cyflogeion. Nid yw aelodaeth wedi’i gyfyngu i gyflogeion â nodweddion penodol. Dyma’r pum rhwydwaith: 

  • Y Rhwydwaith Pobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig


    Mae’r Rhwydwaith Pobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig yn gweithio i gynyddu nifer y Cyflogeion o gymunedau Pobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig ac mae’n ceisio cymryd rôl actif o ran siapio’r sefydliad, yn ogystal â threfnu digwyddiadau sy’n cysylltu'r cymunedau Pobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig ehangach gyda’r Cyngor. 

  • Rhwydwaith Gofalwyr


    Mae’r Rhwydwaith Gofalwyr yn cynnig fforwm cefnogol i gyflogeion sy’n Ofalwyr, gydag aelodau’n gwneud cyfraniad cadarnhaol i bolisïau, gweithdrefnau a diwylliant y Cyngor. 

  • Rhwydwaith Anabledd 


    Mae’r Rhwydwaith Anabledd yn cysylltu cyflogeion anabl mewn lleoliad anffurfiol a chefnogol ac mae’n ceisio ymrymuso cyflogeion trwy hyfforddiant ac addasiadau rhesymol ac ati. Mae hefyd yn tanlinellu’r modd y gall y Cyngor wneud newidiadau cadarnhaol. 

  • Rhwydwaith LHDTh+

    Mae’r Rhwydwaith LHDTh+ yn cynnig y cyfle i gyflogeion Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol neu Drawsrywiol gwrdd a thrafod materion sy'n effeithio arnynt. Mae’n ceisio cael effaith gadarnhaol ar bolisïau a gweithdrefnau'r Cyngor a hyrwyddo llesiant y gymuned LHDTh+.


    Stonewall Cymru

    StonewallCymru | Geirfa

  • Rhwydwaith Menywod


    Mae’r Rhwydwaith Menywod yn cefnogi cynnydd merched yn y Cyngor trwy gynnig cyfleoedd rhwydweithio, hyrwyddo cydraddoldeb merched a cheisio codi proffil merched yn y Cyngor, yn ogystal â threfnu cyfleoedd a digwyddiadau datblygu.


  • Adleoli


    Mae gan y Cyngor Bolisi Adleoli sy’n berthnasol i’r holl gyflogeion parhaol a chyflogeion dros dro â mwy na 4 blynedd o wasanaeth (ac eithrio cyflogeion ysgolion).  Mae’r Polisi wedi’i ddylunio i gefnogi cyflogeion pan font mewn perygl o gael eu diswyddo, neu wedi cael gwybod y byddant yn cael eu diswyddo, oherwydd newidiadau sefydliadol, neu pan fo ganddynt broblemau meddygol, problemau iechyd neu anabledd sy’n effeithio ar eu gallu i gyflawni eu rôl.   Gellir hefyd defnyddio’r Polisi hwn pan fo angen symud o un gweithle i un arall, a allai fod oherwydd rhesymau gwasanaeth hanfodol neu amgylchiadau eithriadol eraill.

     

    Rydym hefyd yn gweithio’n agos â chyrff llywodraethu ysgolion i nodi cyfleoedd i gyflogeion ysgolion gael eu hadleoli i ysgolion eraill.

  • Y Siarter Hil yn y Gwaith


    Cofrestrodd y Cyngor i’r ‘Siarter Hil yn y Gwaith’ ar 1 Ebrill 2019 sy’n nodi nifer o egwyddorion a chamau i’r Cyngor ymrwymo i iddynt  sy’n sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â rhwystrau y mae pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yn eu hwynebu o ran recriwtio a datblygu a bod y Cyngor yn fwy cynhwysol ac yn cynrychioli’r cymunedau a wasanaethwn. 

  • Aelodaeth Ymbarél â 'Cyflogwyr i Ofalwyr'


    Mae’r Cyngor â ttrefniadau aelodaeth ymbarél estynedig â Cyflogwyr i Ofalwyr sy’n rhoi’r cyfle i reolwyr a staff y Cyngor sydd â chyfrifoldebau llesiant cyflogeion, i ymgysylltu gyda a manteisio am ddim ar adnoddau CiO trwy'r Cyngor.  

     

    Mae ein haelodaeth ymbarél hefyd yn rhoi’r cyfle i fusnesau bach a chanolig yng Nghaerdydd, â llai na 250 o gyflogwyr, elwa o’r adnodd gwerthfawr hwn. 

  • Rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall


    Mae’r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Stonewall Cymru sef yr elusen lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol Cymru gyfan i greu amgylchedd cwbl gynhwysol yn y gweithle drwy integreiddio amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob rhan o’r busnes.  Trwy ein gwaith â Stonewall byddwn yn gwneud y gorau o fanteision busnes amrywiaeth ym meysydd recriwtio a chadw, cynnwys a datblygu staff.  Hefyd, mae’r Cyngor yn cyflwyno’n flynyddol i Fynegai Cydraddoldeb Gweithle Stonewall sef rhestr ddiffiniol sy’n dangos y cyflogwyr gorau i staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.    

  • Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd


    Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl ac wedi pontio’n llwyddiannus o’r cynllun ‘Dau Dic’ Yn Gadarn o Blaid Pobl Anabl i’r cynllun Hyderus o ran Anabledd a ddyfarnwyd gan y Ganolfan Waith ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn Rhagfyr 2016.  Mae’r Cyngor yn annog ceisiadau am swyddi gan bobl anabl i sicrhau bod pobl anabl a’r rheiny â chyflyrau iechyd hir dymor yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau.